Gwenllian

Mae Gwenllian yn enwog am fod yn Dywysoges, ac am arwain byddin, yn absenoldeb ei gŵr, mewn cyrch yn erbyn y Normaniaid.

Gwenllian scaled
  • Merch Gruffydd ap Cynan ac Angharad Ferch Owain ab Edwin.
  • 1166: Priododd Gruffydd ap Rhys.
  • Ei mab enwocaf oedd yr Arglwydd Rhys.
  • 1136: Dechreuodd y Gwrthryfel Cymreig mawr. Arweiniodd Gwenllian, yn absenoldeb ei gŵr, yr ymosodiad ar amddiffynfa'r Normaniaid yng Nghydweli, a chafodd ei lladd wrth ymladd y tu allan i'r dref, mewn man a elwir yn Faes Gwenllian hyd heddiw.
  • Yr unig ferch ar gofnod i arwain byddin yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol.
  • 1991: Cofeb yn cael ei hadeiladu yng Nghastell Cydweli gan Merched y Wawr, a’i dadorchuddio gan Gwynfor Evans.

Man Geni: Aberffraw, Ynys Môn

Dyddiad Geni: 1097

Dyddiad Marw: 1136

‘Gwraig gwbl eithriadol yn hanes Cymru oedd Gwenllian, merch y brenin Gruffydd ap Cynan, arwres a roes ei bywyd wrth ymladd dros ei gwlad pan oedd y rhan fwyaf ohoni ym meddiant y gelyn.’ – Gwynfor Evans, ‘Seiri Cenedl y Cymru’ (Gwasg Gomer 1986), tud. 66