Gwynfor Evans

Mae Gwynfor Evans yn enwog am fod yn genedlaetholwr a gwleidydd.

Gwynfor Evans

• 1931: Aeth i Brifysgol Cymru Aberystwyth i astudio’r gyfraith.
• 1934: Ymunodd â Phlaid Cymru.
• 1939: Symudodd i Langadog, Sir Gaerfyrddin, a rhoi’r gorau i fod yn gyfreithiwr.
• 1949: Perswadiodd Pwyllgor Gwaith y Blaid i ddechrau ymgyrch i gael ‘Senedd i Gymru mewn Pum Mlynedd’.
• 1949–73: Yn aelod o Gyngor Sir Gaerfyrddin.
• 1964: Cyhoeddi ‘Rhagom i Ryddid’.
• 1966: Cafodd fuddugoliaeth ysgubol yn is-etholiad Caerfyrddin.
• 1969: Gwrthododd mynychu Arwisgiad Tywysog Cymru, ond croesawodd y Tywysog i Gaerfyrddin fel rhan o’i swydd fel Aelod Seneddol.
• 1970: Collodd etholaeth Caerfyrddin.
• 1974: Adenillodd etholaeth Caerfyrddin.
• 1980: Cyn cafodd S4C ei sefydlu, gwnaeth adduned y byddai’n ymprydio hyd farwolaeth i gael sianel Gymraeg.

Man Geni: Y Barri, Bro Morgannwg

Dyddiad Geni: 1 Medi 1912

Dyddiad Marw: 21 Ebrill, 2005

‘Tair Ideoleg a thri dyn sy’n bennaf gyfrifol am fowldio Cymru ar hyn ydoedd yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, sef Lloyd George, Aneurin Bevan a’r cenedlaetholwr, Gwynfor Evans. Y nhw oedd penseiri gwleidyddol y genedl; y nhw leisiodd ddyheadau a siomedigaethau eu pobl. Hebddyn nhw, ni fyddai Cymru yr hyn yw hi heddiw.’ – Rhys Evans, ‘Gwynfor: “Rhag Pob Brad”: Cofiant’ (Y Lolfa 2005), tud. 9