![Watts-Helen-09[1976] Llun o Helen Watts](https://enwogion.cymru/wp-content/uploads/2024/02/Watts-Helen-091976.jpg)
• 1950au: Cyflogwyd hi i ganu mewn rhaglenni o gerddoriaeth Bach gan y BBC.
• 1955: Canodd ariâu o waith Bach yn y Proms yn Neuadd Albert, Llundain.
• 1959: Enillodd y Grand Prix du Disque am ei gerddoriaeth.
• 1961: Derbyniodd Gymrodoriaeth yr Academi Gerdd.
• 1969: Rhoddodd y perfformiad cyntaf yng Ngŵyl Gerdd Abertawe o’r cylch o ganeuon ‘Billows of the Sea’ gan Grace Williams, a gyflwynwyd iddi gan y cyfansoddwr.
• 1970: Cafodd ganmoliaeth uchel am ei pherfformiad o ‘Kindertotenlieder’ Mahler yn Neuadd Carnegie yn Efrog Newydd.
• 1972: Enwog am ei recordiadau o ran yr Angel yn ‘Dream of Gerontius’ gan Elgar, a’i rhan yn y recordiad cyflawn cyntaf o ‘Riders to the Sea’ gan Vaughan Williams o dan Meredith Davies.
• Gweithiodd gyda llawer o arweinyddion blaenllaw, fel Georg Solti, Benjamin Britten, Bernard Haitink a Herbert von Karajan.
• 1976: Ymddangosodd yn rheolaidd mewn operâu yn Covent Garden a Salzburg a chyda Chwmni Opera Cymru.
• 1978: Urddwyd â C.B.E.
• 1985: Ymddeolodd o’i gyrfa fel cantores yn 1985 a dychwelodd i Sir Benfro lle gallai barhau i fwynhau garddio.
‘O oedran cynnar bu’n canu’r piano ac yn hoff o gerddoriaeth, ond ei huchelgais broffesiynol oedd cymhwyso fel seicotherapydd. Yn lle hynny, cofrestrodd yn yr Academi Frenhinol, astudiodd gyda Caroline Hatchard ac ymunodd â Chantorion y BBC.’ – Cyfieithwyd o ‘Obituary: Helen Watts, contralto’, Gramopohone, 23 Hydref 2009 – https://www.gramophone.co.uk/classical%20music%20news/article/obituary-helen-watts-contralto