
• 1977: Mynychodd Ysgol Dyffryn Teifi.
• 1981: Gorymdeithiodd y grŵp Cymreig ‘Menywod Dros Fywyd ar y Ddaear’ o Gaerdydd i Gomin Greenham i brotestio.
• 1987: Aeth allan i’r India am chwe wythnos, lle cwrddodd hi â’r Fam Teresa, cyn ymuno â’r Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear.
• 1989: Ymunodd Helen â gwersyll y Porth Melyn yng Nghomin Greenham, a chyfieithodd bamffled cyhoeddusrwydd Greenham i’r Gymraeg.
• 1989: 5 Awst – Cafodd Helen ei tharo gan fan geffylau heddlu wrth iddi aros i groesi’r ffordd.
• 1989: Datganwyd mai damwain oedd ei marwolaeth. Helen oedd yr unig un a fu farw yn Greenham o ganlyniad i’r protestiadau heddwch.
• 2000: Caeodd Gwersyll Heddwch y Menywod ar 5 Medi.
• 2002: Agorwyd Gardd Heddwch ar Gomin Greenham yn cynnwys gardd fach ar gyfer Helen Thomas.
• Ysgrifennodd Dafydd Iwan gân er cof amdani, sef ‘Cân i Helen’.
• 2019: Roedd Helen Thomas yn un o bump o fenywod ar restr fer i’w coffáu gan y cerflun cyntaf yng Nghymru o fenyw wrth ei henw.
‘”Roeddem yn teimlo ei bod hi’n briodol cofio ei brwydr yn erbyn arfau niwclear.” Dywedodd y Maer Hazel Evans fod y cyngor tref am anrhydeddu ei chof a’i hymrwymiad i heddwch.’ – Cyfieithwyd o ‘Greenham Common campaigner Helen Thomas is honoured’, BBC News, 6 Tachwedd 2011 – https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-south-west-wales-15598177