
- Roedd Hywel yn fab i Cadell ac yn ŵyr i Rhodri Mawr.
- 920: Ar ôl marw ei frawd Clydog, dyma Hywel yn etifeddu rhan ddeheuol tywysogaeth Seisyllwg, sef Ceredigion ac Ystrad Tywi.
- Priododd Elen ferch Llywarch ap Hyfaidd o Ddyfed.
- 926: Aeth Hywel i Henffordd i gydnabod awdurdod Athelstan, Brenin Lloegr.
- 928: Un o ddigwyddiadau mwyaf ei fywyd oedd ei bererindod i Rufain.
- 942: Daeth yn ‘Frenin Cymru oll’ (ar wahân i Forgannwg a Gwent) ar ôl meddiannu tiroedd Idwal Foel, a cafodd ei ladd gan y Saeson mewn brwydr.
- 945: Gwahoddwyd chwech o gynrychiolwyr o bob rhan o'i deyrnas i'w lys i gytuno ar y cyfreithiau a gelwir heddiw yn 'Cyfreithiau Hywel Dda'.
- Dywedwyd bod y cyfreithiau wedi’u hysgrifennu yn dair rhan: y gyntaf, cyfraith ei lys dyddiol; yr ail, cyfraith y wlad; y drydedd, arfer pob un ohonynt.
- Mae haneswyr yn cydnabod mai o’i gyfreithiau y daeth y syniad o ymwybyddiaeth genedlaethol ymhlith Cymry'r Oesoedd Canol.
- Mae’r llawysgrifau hynaf o Gyfreithiau Hywel Dda yn dyddio nôl i ddiwedd y 12fed ganrif.
‘Erbyn diwedd cyfnod Hywel roedd Cymru yn wlad unedig, mwy neu lai, gyda ffiniau pendant â Lloegr. Roedd ganddi ei hiaith ei hun, ei heglwys ei hun, ei llenyddiaeth a’i chyfreithiau ei hun, a’i system lywodraethu ei hun.’ – Cyfieithwyd o Gwyn A. Williams, ‘When was Wales? A History of the Welsh’ (Penguin 1985), tud. 58