Ifan ab Owen Edwards

Mae Syr Ifan ab Owen Edwards yn enwog am fod yn ddarlithydd a sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru.

Ifan ab Owen Edwards scaled

• 1912–15: Aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
• 1915–18: Bu’n gwasanaethu fel milwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
• 1918–20: Aeth i Brifysgol Rhydychen a graddiodd mewn Hanes.
• 1920–50: Golygu’r cylchgrawn ‘Cymru’r Plant’.
• 1922: Sefydlodd Urdd Gobaith Cymru. Ei lythyr yn rhifyn Ionawr 1922 o ‘Cymru’r Plant’ oedd cychwyn Urdd Gobaith Cymru.
• 1928: Sefydlodd wersyll yn Llanuwchllyn.
• 1928: Cychwynnodd Eisteddfod flynyddol yr Urdd.
• 1932: Sefydlu Gwersyll Llangrannog, a dechrau Mabolgampau’r Urdd.
• 1939: Trwy ei ymdrechion ef yr agorwyd yr Ysgol Gymraeg yn Aberystwyth.
• 1947: Cafodd ei urddo’n Farchog.
• 1950: Creu Gwersyll Glan-llyn.

Man Geni: Llanuwchllyn, Gwynedd

Dyddiad Geni: 25 Gorffennaf 1895

Dyddiad Marw: 23 Ionawr 1970

‘Sefydlwyd Urdd Gobaith Cymru gan Syr Ifan ab Owen Edwards yn 1922. Ei fwriad oedd creu mudiad i amddiffyn y Gymraeg mewn byd lle roedd yr iaith Saesneg yn dominyddu pob agwedd o fywyd plant Cymru tu allan i’r cartref a’r
capel.’ – ‘Ein Hanes’, Urdd – https://www.urdd.cymru/cy/amdanom-ni/ein-hanes/