
• 1944: Pan oedd John yn saith oed symudodd y teulu i Fwlch Llan yn Sir Aberteifi, a daeth John yn rhugl yn y Gymraeg.
• 1956: Aeth i Goleg y Brifysgol Caerdydd i astudio hanes, a graddiodd gyda dosbarth cyntaf.
• Enillodd ysgoloriaeth i astudio am ddoethuriaeth yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt.
• 1963: Cafodd ei benodi i’w swydd gyntaf yn Adran Hanes Coleg y Brifysgol Abertawe, yn darlithio trwy gyfrwng y Gymraeg.
• 1973: Cafodd swydd fel darlithydd yn Adran Hanes Cymru Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
• 1974: John oedd Warden cyntaf Neuadd Pantycelyn, ac arhosodd yno hyd 1992.
• 1981: Cafodd ei ddyrchafu’n uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.
• 1990: Ei gyfrol nodedig ‘Hanes Cymru’ yn cael ei chyhoeddi.
• 1998: Yn ystod helynt rhywioldeb Ron Davies, penderfynodd John, ar ôl ymgynghori â Janet ei wraig, ddatgan ei ddeurywioldeb ei hun mewn cyfweliad teledu.
• Roedd John yn un o olygyddion ‘Gwyddionadur Cymru’ yr Academi Gymreig.
• 2020: Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn am ‘Cymru: Y 100 Lle i’w Gweld cyn Marw’.
• 2014: Cyhoeddi ei hunangofiant ‘Fy Hanes i’.
‘Roedd [John Davies] yn un o genhedlaeth o haneswyr, ac efallai’r disgleiriaf yn eu plith, a daniodd adfywiad yn hanesyddiaeth Cymru.’ – Meic Birtwistle, Y Bywgraffiadur Cymreig