
• 1806: Tua’r adeg yma agorodd John ei fusnes ei hun yng Nghasnewydd.
• 1823: Bu yn y carchar am 6 mis am enllib (cyhoeddi pethau gwael ac anwir am rhywun).
• Ar ôl cael ei ryddhau daeth yn fasnachwr llwyddiannus, a chymerodd ran bwysig mewn gwleidyddiaeth leol.
• 1835: Cafodd ei ethol yn Gynghorydd Tref.
• 1838: Ffurfiwyd cysylltiad Frost â’r mudiad Siartaidd.
• 1839: 3-4 Tachwedd – Y Siartwyr yn ymdeithio i Gasnewydd, ac un carfan o dan arweiniad Frost, yn y gwrthryfel arfog olaf mawr ym Mhrydain.
• Wedi ysgarmes o flaen y Westgate Hotel saethwyd atynt gan filwyr; lladdwyd hyd at 24 o Siartwyr ac anafwyd 50.
• 1840: Arestiwyd Frost ac eraill ac fe’u condemniwyd i’w crogi a’u chwarteru am deyrnfradwriaeth, ond cawsom eu hanfon i Awstralia am weddill eu hoes yn lle.
• Cyrhaeddodd Frost Van Diemens Land (Tasmania erbyn hyn) ar 30 Mehefin, a gweithio yn swyddfa pennaeth y gwarchodlu ac am ddwy flynedd o lafur caled.
• 1854: Cafodd bardwn amodol ac aeth ar unwaith i Unol Daleithiau America.
• 1856: Cafodd bardwn diamod, a daeth adref ym mis Gorffennaf, gan ymsefydlu yn Stapleton gerllaw Bryste, lle bu’n byw hyd ei farwolaeth.
‘Uchelgais Frost oedd lleihau baich y trethi a dileu tlodi. Credai fod angen diwygio’r Senedd hefyd a chael pob etholaeth i anfon aelodau iddi yn ôl cyfran.’ – Eirwen Davies, ‘John Frost: A Therfysg Casnewydd’ (Gwasg Prifysgol Cymru 1969), tud. 7