John Jones

Mae John Jones yn enwog am fod yn Seryddwr ac yn Ieithydd.

John Jones

• 1848: Gwas fferm oedd i ddechrau, ac yna bu’n weithiwr llwytho llechi ym Mhorth Penrhyn.
• Cafodd ei adnabod fel Ioan Bryngwyn Bach.
• Astudiodd John ei hoff bynciau trwy ei oes.
• Roedd John yn seryddwr gwych, a gwnaeth ddau sbienddrych iddo’i hun.
• John Jones y Sêr oedd plant Bangor yn ei alw.
• Dysgodd ieithoedd, ac roedd ganddo 26 o eiriaduron. Darllenai’r Beibl yn Gymraeg, Saesneg, Groeg, a Hebraeg gyda’i gilydd amser brecwast.
• Ymddiddorai hefyd mewn cerddoriaeth, ac roedd yn fardd.
• Ymwelodd yr awdur Seisnig, Samuel Smiles, ag ef, ac ysgrifennodd ei hanes.

Man Geni: Dwyran, Ynys Môn

Dyddiad Geni: 1818

Dyddiad Marw: 1898

‘Roedd John yn un o’r dynion dedwydd hynny oedd yn byw dau fywyd. Yn y gwaith roedd yn gyfrifwr llechi cyffredin. Ar ôl gwaith, roedd yn ieithydd, athronydd, bardd.’ – Cyfieithwyd o Arthur Mee, ‘Young Wales: A Monthly Magazine’ (1889), tud. 272