John Roberts (Alaw Elwy, Telynor Cymru)

Mae John Roberts yn enwog am ganu'r delyn. Ei ffugenw oedd Alaw Elwy, Telynor Cymru.

John Roberts
  • Dechreuodd ei yrfa yn y 'Royal Welch Fusiliers’, a bu ynddi am naw mlynedd a hanner.
  • Wedi ymryddhau o'r fyddin, ymsefydlodd yn y Drenewydd, ac yno y bu fyw hyd ei farwolaeth.
  • 1834: Chwaraeodd y delyn o flaen y Frenhines Fictoria ym Mhortsmouth yn 1834, ac yn Winchester ddwywaith yn 1835.
  • Daeth yn delynor enwog ac yn ganwr penillion rhagorol.
  • 1842: Enillodd gystadleuaeth y delyn deires yn Eisteddfod y Fenni.
  • 1847: Chwaraeodd y delyn o flaen y Dug Constantine o Rwsia, yn Aberystwyth.
  • 1848: Enillodd y Brif wobr yn yr Eisteddfod a chwaraeodd y delyn o flaen brenin Gwlad Belg.
  • 1850: Enillodd gystadleuaeth y delyn yn Eisteddfod Caerdydd.
  • 1886: Yn arwisgiad farddol Glan Geirionydd urddwyd ef yn 'Telynor Cymru'.
  • 1889: Dysgodd naw o'i blant i chwarae'r delyn, y ffidil, a'r ffliwt, a rhoesant gyngerdd o flaen y Frenhines yn y Pale, Llandderfel.

Man Geni: Llanrhaeadr, Dinbych

Dyddiad Geni: 1816

Dyddiad Marw: 11 Mai 1894