Kate Bosse-Griffiths

Mae Kate Bosse-Griffiths yn enwog am fod yn Eifftolegydd ac Awdures.

Kate Bosse-Griffiths
  • Astudiodd Archaeoleg ac Eifftoleg mewn prifysgolion ym Merlin, Bonn a München.
  • 1936: Cyhoeddwyd ei doethuriaeth, a cafodd swydd yn Amgueddfeydd Cenedlaethol Berlin.
  • 1936: Oherwydd ei dras Iddewig, ffodd rhag y Natsïaid ac aeth i’r Alban, a gweithiodd fel cynorthwyydd i'r biolegydd, mathemategydd a chlasurwr enwog, Syr D'Arcy Wentworth Thompson.
  • 1939: Priodi John Gwynedd Griffiths a symudodd y ddau i'r Pentre yng Nghwm Rhondda.
  • 1940–41: Cyhoeddodd gyfres o gerddi a straeon arloesol yn y cylchgrawn 'Heddiw'.
  • 1941: Ymddangosodd ei nofel gyntaf 'Anesmwyth Hoen'. Enillodd 'Anesmwyth Hoen' gystadleuaeth Llyfrau'r Dryw.
  • 1943: Cyhoeddi 'Mudiadau Heddwch yn yr Almaen'. Ei mab, Robat Gruffudd yn cael ei eni.
  • 1944: Carcharwyd mam a dau frawd Kate yng ngwersylloedd crynhoi'r Natsïaid a bu farw ei mam yno.
  • 1970: 'Tywysennau o'r Aifft' yn cael ei gyhoeddi.

Man Geni: Wittenberg, Yr Almaen

Dyddiad Geni: 16 Gorffennaf 1910

Dyddiad Marw: 4 Ebrill 1998

‘Gwnaeth Kate Bosse-Griffiths gyfraniad unigryw i lenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif, ac fe’i cofir fel Eifftolegydd Cymreig o fri.’ – Cyfieithwyd o ‘Kate Bosse-Griffiths’, 100 Menywod Cymreig – https://web.archive.org/web/20190325132850/https://www.100welshwomen.wales/100-women/kate_bosse-griffiths/