Kate Roberts

Mae Kate Roberts yn cael ei chydnabod fel llenor amlycaf Cymru yn yr 20fed ganrif.

Kate Roberts

• 1904: Enillodd ysgoloriaeth i Ysgol y Sir yng Nghaernarfon.
• 1910: Aeth i Goleg Prifysgol Cymru Bangor i astudio Cymraeg.
• 1913–17: Dysgu yn Ysgol Gynradd Llanberis, Ysgol Uwchradd Ystalyfera, ac Ysgol y Sir Aberdâr i ferched.
• 1925: Cyhoeddi ei chyfrol gyntaf, ‘O Gors y Bryniau’. Ymaelodi â phlaid wleidyddol newydd – Plaid Genedlaethol Cymru.
• 1935: Kate a’i gŵr yn penderfynu symud yn ôl i’r gogledd i brynu Gwasg Gee.
• 1936: Cyhoeddi ‘Traed mewn Cyffion’. Daeth yn gydradd gyntaf yng nghystadleuaeth rhyddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol.
• 1950: Derbyn doethuriaeth Anrhydedd o Brifysgol Cymru.
• 1956: Cyhoeddi ‘Byw sy’n Cysgu’, nofel ar ffurf dyddiadur.
• 1959: Cyhoeddi straeon byrion ‘Te yn y Grug’, un o’i llyfrau enwocaf.
• 1961: Derbyn Medal y Cymmrodorion.
• 1981: Cyhoeddi ei nofel olaf, ‘Haul a Drycin’.

Man Geni: Rhosgadfan, Gwynedd

Dyddiad Geni: 13 Chwefror 1891

Dyddiad Marw: 14 Ebrill 1985

‘Mae datgan mai Kate Roberts oedd y nofelwraig Gymreig bwysicaf yr ugeinfed ganrif yn ffaith na fyddai fawr neb yn dadlau yn ei gylch.’ – Cyfieithwyd o Katie Gramich, rhagymadrodd yn ‘Writers of Wales’ (Gwasg Prifysgol Cymru 2011)