
- 1910: Fel myfyrwraig yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, enillodd radd BSc gan Brifysgol Llundain.
- Arhosodd Kathleen yn Aberystwyth i wneud ymchwil ôl-raddedig.
- 1914: Newidiodd Kathleen a’i chwaer Bessey, oedd hefyd wedi astudio yn Aberystwyth, eu cyfenw, o Zimmerman i Carpenter.
- 1923–25: Cynhyrchodd rai o'r asesiadau manwl cyntaf o ffawna dŵr rhedegog Prydain.
- 1928: Cyhoeddwyd ei llyfr 'Life in Inland Waters', y gwerslyfr Saesneg cyntaf ar ecoleg dŵr croyw.
- 1930: Symudodd Kathleen i Brifysgol McGill ym Montreal, Canada i ddarlithio ar ecoleg anifeiliaid.
- 1931–36: Daeth yn bennaeth Adran Fioleg Coleg Washington ym Mae Chesapeake, Maryland, UDA, lle sefydlodd Gymdeithas Fioleg y Coleg a datblygu'r casgliadau hanes natur.
- Symudodd i Brifysgol Lerpwl cyn yr Ail Ryfel Byd, lle cynhyrchodd un o'r astudiaethau manwl cynharaf o ddeiet eogiaid ifanc yn Afon Dyfrdwy.
‘Cyhoeddwyd ei gwerslyfr “Life in Inland Waters” (teyrnged i’w thad) yn 1928. Mae’r gwerslyfr ecoleg dŵr croyw cyntaf hwn yn Saesneg wedi’i seilio ar ddarluniau, data a chasgliadau a wnaed o ddyfroedd Cymru, ac mae’n ddibynnol iawn ar lenyddiaeth wyddonol Ewropeaidd ac Americanaidd.’ – Cyfieithwyd o Catherine Duigan, ‘Who was… Kathleen Carpenter?’, ‘The Biologist’ vol. 65, no. 3 (Mehefin 2016), tud. 22-25 – https://thebiologist.rsb.org.uk/biologist-features/who-was-kathleen-carpenter