Laura Ashley

Mae Laura Ashley yn enwog am fod yn ddylunydd ffasiwn.

Laura Ashley

• 1932: Cafodd ei hanfon i Lundain i Ysgol Elmwood.
• Yn dair ar ddeg cafodd ei hanfon yn ôl i Gymru fel efaciwi.
• 1940au cynnar: Yn 16 oed gadawodd Laura yr ysgol a gwasanaethu yn Llynges Frenhinol y Merched.
• 1950au: Dechreuodd Laura Ashley fusnes gwneud clytwaith ar fwrdd ei chegin.
• 1954: Sefydlu’r busnes. Ei enw i ddechrau oedd Ashley Mountney Ltd.
• 1960au: Symud i Fachynlleth ac agor siop yno. Prynu ffermdy Clogau.
• 1960au: Prynu Gorsaf Rheilffordd Carno i’w defnyddio fel ffatri.
• Prynu Rhydolog yn y cyfnod yma, gan fod Clogau wedi mynd yn rhy fach.
• 1970: Siop Machynlleth yn cau, yn agor siop yn yr Amwythig.
• 1977: Y busnes yn ennill gwobr y Frenhines am allforio.
• 1978: Roedd gan y teulu 70 o siopau ledled y byd.
• 1982: Cyhoeddi ‘Laura Ashley: Book of Home Decorating’.
• 1986: Laura Ashley Foundation yn cael ei sefydlu gan Bernard a’r teulu.

Man Geni: Merthyr Tudful, Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Dyddiad Geni: 7 Medi 1925

Dyddiad Marw: 17 Medi 1985

‘Pan soniai am ei gwreiddiau, y gwreiddiau Cymreig y cyfeiriai atynt, a phan soniai am gartref ei phlentyndod, yn amlach na pheidio,
tŷ ei mamgu, sef bwthyn gweithiwr glofa ym Merthyr Tudful oedd ganddi mewn golwg.’ – Cyfieithwyd o Anne Sebba, ‘Laura Ashley: A Life by Design’ (Weidenfeld & Nicolson 1990), tud. 3