
• 1912: Yn dechrau pregethu.
• 1913: Aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor.
• 1916: Ymunodd Valentine â’r Corfflu Meddygol (RAMC) a cyrhaeddodd Ffrainc ddiwedd Medi.
• 1917: Cael ei glwyfo’n ddifrifol ar 23 Hydref, pan anadlodd nwy gwenwynig wrth drin milwyr a glwyfwyd ym mrwydr Passchendaele.
• 1925: Sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru, a chafodd Valentine ei ethol yn llywydd.
• 1929: Valentine oedd ymgeisydd seneddol cyntaf y Blaid pan safodd dros etholaeth Sir Gaernarfon yn yr etholiad cyffredinol.
• 1936: Medi – Llosgodd Ysgol Fomio Penyberth gyda Saunders Lewis a D. J. Williams.
• 1947: Daeth yn weinidog Capel Penuel yn Rhosllannerchrugog.
• 1951: Bu’n golygu ‘Seren Gomer’.
• 1970: Ymddeol o’r Weinidogaeth.
• 1986: Gwobrwyodd Prifysgol Cymru radd Doethur mewn Diwinyddiaeth i Lewis Valentine, ond bu farw cyn ei dderbyn.
‘A’i sôn y dylem am yr ysgol fomio yn Llŷn ac am Wormwood Scrubs? Ond ei barch tuag at Gymru a’i gyd-Gymru â ddygodd Mr. Valentine i’r argyfwng hwnnw, ac yr oedd hynny’n gyson â’i holl agwedd tuag at ei gynulleidfa yn yr eglwys, ei enwad, a’i wlad.’ – Saunders Lewis, ‘Seren Cymru’ (1971) yn Arwel Vittle, ‘Valentine: Cofiant i Lewis Valentine’ (Y Lolfa 2006), tud. 10