Llywelyn ap Gruffudd

Mae Llywelyn ap Gruffudd yn enwog am fod yn Dywysog Cymru.

Llywelyn ap Gruffudd

• 1247: Cytundeb Woodstock â Harri III.
• 1255: Buddugoliaeth dros ei frawd hŷn, Owen, a’i frawd iau, Dafydd, mewn brwydr ym Mryn Derwin.
• 1256–67: Cafodd gyfres ddi-dor o fuddugoliaethau mewn brwydrau rhanbarthol.
• 1258: Y tywysogion Cymreig eraill ar wahân i un yn trosglwyddo eu gwrogaeth oddi wrth Brenin Lloegr i Llywelyn pan gyhoeddodd ei hun yn Dywysog Cymru.
• 1267: Cytundeb Trefaldwyn.
• 1267–77: Yn ystod y ddegawd yma gwelwyd newid yn y sefyllfa; bellach roedd y berthynas â Lloegr yn canolbwyntio mwy ar dde-ddwyrain Cymru.
• 1275: Llywelyn i briodi Eleanor de Montfort, ond y briodas yn cael ei gohirio am fod Edward I yn ei chadw’n garcharor yn Windsor.
• 1277: Aeth i Ryfel yn erbyn Edward I. Yn dilyn Cytundeb Aberconwy, dim ond Gwynedd, i’r gorllewin o afon Conwy, oedd ganddo ar ôl.
• 1278: Priodi â Eleanor de Montfort.
• 1282: Eleanor yn marw yn rhoi genedigaeth i’w merch Gwenllian.
• 1282: Lladdwyd Llywelyn mewn brwydr yng Nghilmeri gan filwyr Edward I.

Man Geni: Gwynedd

Dyddiad Geni: c. 1222

Dyddiad Marw: 11 Rhagfyr 1282

‘Yn dilyn hynny, gwrthododd Llywelyn dalu gwrogaeth i Edward ar sail y ffaith y byddai ei fywyd dan fygythiad pe bai’n
gwneud hynny. Penderfynodd hefyd briodi ag Eleanor de Montfort i gadw at ei addewid i’w thad, ond cipiwyd Eleanor ar ei ffordd i Gymru a’i dal yng Nghastell Windsor gan Edward.’ – ‘Llywelyn ap Gruffudd’, Cymdeithas Owain Glyn Dŵr – https://owain-glyndwr.cymru/age_of_the_princes/llywelyn_ap_gruffudd.html