Lois Blake

Mae Lois Blake yn enwog am fod yn hanesydd a hyrwyddwraig dawnsio gwerin Cymru

Lois Blake 1

• Gwasanaethodd fel nyrs yn y Rhyfel Mawr, yn Serbia, Rwmania a Rwsia; bu hefyd yn coginio ac yn gyrru cerbyd ar faes y gad.
• 1930: Symudodd Lois a’i gŵr i Melysfan, Llangwm ger Corwen, Sir Feirionnydd.
• Roedd y blynyddoedd a dreuliodd Lois yn Llangwm yn gyfnod allweddol yn hanes dawnsio gwerin Cymru.
• Roedd Lois yn aelod o’r EFDSS (English Folk Dance and Song Society) ac ar ôl symud i Gymru roedd am ychwanegu dawnsiau gwerin Cymru i’w repertoire.
• Aeth ati i ddysgu dawnsiau syml i blant ysgol gynradd Llangwm.
• 1948: Dysgu dawnsiau gwerin Cymru i swyddogion yr Urdd yn Neuadd Pantyfedwen, y Borth.
• 1949: Ffurfiwyd Cymdeithas Ddawns Werin Cymru, gyda Lois Blake yn Llywydd, swydd a ddaliodd hyd at ei marwolaeth.
• Bu hefyd yn cyfansoddi ei dawnsiau ei hun, gan gynnwys ‘Pont Caerodor’, ‘Y Gelynnen’ a ‘Robin Ddiog’.
• 1960: Yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd cafodd Lois ei derbyn i’r Orsedd.
• 1979: Cyflwynodd Cymdeithas Ddawns Werin Cymru Dlws Coffa Lois Blake yn wobr am y brif gystadleuaeth dawnsio gwerin yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Man Geni: Streatham, Llundain Fwyaf, Lloegr

Dyddiad Geni: 21 Mai 1890

Dyddiad Marw: 19 Tachwedd 1974

‘Yn Llangwm y daeth mam i wir adnabod a charu’r Cymry. Er mor anghysbell, cymerodd mam ran, a mwynhaodd holl weithgareddau’r pentref bach Cymreig hwn.’ – Felicity Blake, cyfieithwyd o Robin Gwyndaf, ‘Lois Blake: Arloeswraig Dawnsio Gwernin yng Nghymru’, Dawns (2014/15), tud. 18 – https://dawnsio.cymru/dawns/