
• Astudiodd gelfyddyd o dan Alfred Drury yng Ngholeg Celf Wimbledon cyn symud ymlaen i weithio yn ysgolion yr Academi Frenhinol.
• 1893: Arddangoswyd ei cherfluniau am y tro cyntaf yn arddangosfa’r Academi.
• Gweithiodd yn llwyddiannus hyd ganol y Rhyfel Byd Cyntaf yn Rhufain, lle adeiladodd weithdai iddi ei hun ac artistiaid eraill.
• Bu’n dioddef yn wael o arthritis yn ei chefn, gan beri iddi ystyried rhoi’r gorau i’w gwaith. Ond wedi iddi ddychwelyd i Loegr yng nghanol y 1920au, cafodd wellhad.
• 1926: Cwblhaodd ei gwaith mwyaf nodedig, sef y penddelw o Robert Owen ar gyfer Amgueddfa’r Drenewydd.
• Ailgydiodd yn ei gyrfa ac ymwelodd â’r Unol Daleithiau, ond ni lwyddodd i ailsefydlu ei hun ymhlith cerflunwyr amlycaf ei chyfnod.
• Bu’n byw yn Llundain weddill ei hoes.
• Arbenigai mewn cerfluniau efydd, ysgafn a rhamantaidd, ar raddfa fach. Roedd yn hoff o gerflunio plant, a chwblhaodd nifer o bortreadau comisiwn hefyd.
• Arddangoswyd ei cherfluniau a’i lluniau dyfrlliw yn yr Academi Frenhinol, mewn arddangosfeydd blynyddol yn Lerpwl, yn y Salon ym Mharis, ac yn Rhufain.
‘Ar ôl dychwelyd i Loegr, roedd ei hiechyd wedi gwella digon erbyn canol yr 1920au iddi allu ailafael yn ei gyrfa. Ymwelodd Williams â’r Unol Daleithiau o leiaf ddwywaith rhwng 1926 ac 1928, ac efallai iddi dreulio peth amser yno. Ymddengys na wnaeth hi erioed adennill ei llwyddiant cynnar yn llawn.’ – Cyfieithwyd o ‘Lucy Gwendolen Williams’, Mapping the Practice and Profession of Sculpture in Britain and Ireland 1851-1951, 2011 – https://sculpture.gla.ac.uk/mapping/public/view/person.php?id=msib1_1203424401