
• 1908: Ymunodd Margaret ag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched, yn brwydro dros ennill y bleidlais i fenywod.
• 1913: Cafodd ei dedfrydu i garchar am fis, am roi blwch post cyhoeddus ar dân yng Nghasnewydd ond cafodd ei rhyddhau ar ôl ychydig ddyddiau pan aeth ar streic newyn.
• 1915: Roedd yn teithio ar yr RMS ‘Lusitania’ pan gafodd y llong ei suddo gan dorpido.
• 1918: Daeth yn Brif Reolydd recriwtio merched yng Ngweinyddiaeth y Gwasanaeth Cenedlaethol.
• 1918: Daeth hi yr Ail Is-iarlles Rhondda.
• 1919: Roedd hi’n aelod o 33 o fyrddau ac yn cadeirio 7.
• 1920: Sefydlodd y papur newydd wythnosol ‘Time and Tide’.
• 1921–24: Hi oedd llywydd cenedlaethol y Gymdeithas Dinasyddion Benywaidd
• 1926: Margaret oedd y fenyw gyntaf i gael ei hethol yn llywydd Sefydliad y Cyfarwyddwyr, swydd a ddaliodd am ddegawd.
• 1933: Cyhoeddodd ei chofiant ‘This Was My World’.
• 1955: Derbyniodd doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Cymru
• 2019: Fe’i dewiswyd yn un o bum menyw hanesyddol i’w coffáu â cherflun yng Nghymru
‘Yn yr 1920au roedd hi’n un o ffigyrau blaenaf y frwydr i gael y bleidlais i fenywod dan ddeg-ar-hugain.’ – Angela V. John, ‘Turning the Tide: The life of Lady Rhondda’ (Parthian 2013), tud. 16