Margaret Davies

Mae Margaret Davies, Gregynog yn enwog am fod yn gasglydd celfwaith a chymwynasydd.

Margaret Davies 1

• 1888: Mam Margaret a Gwen yn marw.
• Addysgwyd Margaret, a’i chwaer Gwen, yn ysgol Highfield, Hendon, a thrwy deithio tramor, yn enwedig yn Ffrainc.
• 1908: Dechreuodd y ddwy brynu darluniau o ddifri.
• Prynodd y chwiorydd Blasty Gregynog yn fuan wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf a’r bwriad oedd sefydlu canolfan gelfyddyd a chrefft i Gymru.
• 1923–42: Cyhoeddodd Gwasg Gregynog 42 teitl prin, gan gynnwys nifer o rai hynod hardd.
• 1933–38: Adeiladwyd ystafell gerdd gydag organ, a cynnal gwyliau blynyddol o gerddoriaeth a barddoniaeth.
• Y ddwy chwaer oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o’r cymorth ariannol a gafodd y Cyngor Cerdd Cenedlaethol.
• Roedd Margaret yn arlunydd amatur da, Miss Daisy roedd pobl yn ei galw hi.
• 1949: Cafodd Margaret radd LLD er Anrhydedd gan Brifysgol Cymru.
• 1951: Gwen, ei chwaer yn marw. Ar ôl ei marwolaeth tyfodd ei chasgliad o baentiadau i gynnwys Bonnard, Kokoschka, Sisley, Utrillo ac eraill.
• 1960: Cyflwynodd Margaret ei chartref a’r ystad yn rhodd haelionus i’r Brifysgol, i’w ddefnyddio’n ganolfan breswyl gynadleddol a chelfyddydol.

Man Geni: Llandinam, Powys

Dyddiad Geni: 14 Rhagfyr 1884

Dyddiad Marw: 13 Mawrth 1963

‘Roedd Gwendoline a Margaret Davies yn ddyngarwyr cymdeithasol o ganolbarth Cymru a gasglodd ynghyd un o’r casgliadau celf mwyaf yn y DU.’ – Cyfieithwyd o ‘The Davies sisters’, BBC Wales Arts, 25 Ionawr 2011 – https://www.bbc.co.uk/wales/arts/sites/davies-sisters/