Maria Jane Williams (Llinos)

Mae Maria Jane Williams yn enwog am fod yn gasglwr llên gwerin a cherddor.

Maria Jane Williams

• Dysgodd Maria i siarad Cymraeg fel plentyn, yn ogystal â chwarae’r delyn.
• 1826: Am ddau fis yn yr haf, teithiodd Maria Jane i Iwerddon yng nghwmni’r Parch Thomas Price.
• Derbyniodd hyfforddiant ar sut i gasglu caneuon a llên gwerin.
• 1828: Cyhoeddwyd ei chasgliad o chwedlau gwerin Cymraeg, un o’r rhai cyntaf yn yr iaith.
• Casglodd y rhan fwyaf o’r chwedlau o’r werin bobl, gan restru a disgrifio’i ffynonellau.
• 1837: Enillodd Maria Jane wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni am y ‘casgliad gorau o alawon gwreiddiol argyhoeddedig Cymreig, gyda’r geiriau fel y’u cenir gan werin bobl Cymru’.
• 1838: Daeth rhai o’r alawon a gasglwyd gan Maria Jane yn enwog iawn ar draws Cymru wedi iddynt gael eu cynnwys yn ‘The Welsh Harper: Being an Extensive Collection of Welsh Music’.
• Daeth yn rhan o gylch ffrindiau Arglwyddes Llanofer.
• 1844: Cyhoeddwyd ei chasgliad o dan y teitl ‘Ancient National Airs of Gwent and Morgannwg’ drwy nawdd Arglwyddes Llanofer.
• 1850: Ymunodd â Chymdeithas Hynafiaethau Cymru.

Man Geni: Aberpergwm, Glyn-nedd, Castell-nedd Port Talbot

Dyddiad Geni: 4 Hydref 1795

Dyddiad Marw: 10 Tachwedd 1873

‘”Ancient National Airs of Gwent and Morgannwg” oedd yr unig gyfrol o ganeuon gwerin Cymraeg, yn alawon ynghyd â geiriau, i’w hargraffu cyn yr ugeinfed ganrif.’ – Cyfieithwyd o ‘Ancient National Airs of Gwent and Morgannwg’ (Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru 1994), tud. vii