
• Roedd cymuned fach o Mormoniaid yn hen bentref Llandudno ar Ben-y-Gogarth, ac mae’n debyg bod rhieni Martha yn aelodau ohoni.
• 1860: Ymfudodd y teulu i’r Unol Daleithiau.
• 1878: Aeth i Brifysgol Michigan i astudio am radd MD.
• Roedd hi mewn briodas amlwreiciol gyda Angus Munn Cannon, hynny yw roedd ganddo 4 o wragedd. Roedd e hefyd 23 blynedd yn hŷn na Martha ac yn dad i 17 o blant.
• 1887: Dychwelodd Martha i Brydain am gyfnod i ffoi.
• 1888: Ar ôl dychwelyd i’r Unol Daleithiau bu Martha’n weithgar yn y mudiad hawliau merched, a sefydlodd goleg hyfforddi nyrsys yn Utah, yna California.
• 1890: Dychwelodd i Salt Lake City ac ailafael yn ei phractis meddygol a’i phriodas amlwreiciol.
• 1896: Daeth hi yn seneddwraig daleithiol, hi oedd y wraig gyntaf i’w hethol i Senedd Talaith Utah.
• 1986: Enwi adeilad Adran Iechyd Utah ‘The Dr. Martha Cannon Building’.
• 1992: Stamp coffa’n cael ei greu i gofio am Martha.
‘Dangosodd Mattie ei hannibyniaeth ddwys drwy wrthod dilyn argyhoeddiadau gwleidyddol ei gŵr, sy’n un o Weriniaethwyr selog y wladwriaeth’. – Cyfieithwyd o Mari Grana, ‘Pioneer, Polygamist, Politician: The Life of Dr. Martha Hughes Cannon’ (Two dot 2009), tud. 1