Mary Eleanor Gillham

Mae Mary Gillham yn enwog am fod yn naturiaethwr ac ysgolhaig.

Mary Gillham

• 1939: Manteisiodd ar y cyfle i adael y swyddfa a gweithio yng nghefn gwlad drwy ymuno â Byddin Tir y Menywod.
• 1945: Dechreuodd ar BSc mewn Amaethyddiaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
• Dros gyfnod o ddeng mlynedd aeth Mary i ynysoedd Sgogwm a Sgomer bob blwyddyn a chwblhaodd yr ymchwil ar gyfer ei doethuriaeth.
• 1953: Gorffen ei doethuriaeth.
• 1956: Gweithiodd yng Ngholeg Massey yn Seland Newydd.
• Gweithiodd fel Arddangosydd Hŷn ym Mhrifysgol Melbourne, ac yna i Sefydliad Ymchwil Gwyddonol a Diwydiannol y Gymanwlad.
• 1959: Roedd Mary Gillham yn un o’r pedair gwyddonydd benywaidd cyntaf i ymuno ag Ymgyrch Ymchwil Cenedlaethol Awstralia i’r Antarctig (ANARE).
• 1960: Treuliodd dri mis yn ymchwilio yn Ne Affrica, Nambia, Zambia, Zimbabwe, Mozambique a Nigeria, gan ddychwelyd i Brydain ym mis Hydref.
• 1962: Cafodd swydd ym Mhrifysgol Caerdydd.
• 1988: Mary yn ymddeol.
• 2009: Derbyniodd M.B.E.

Man Geni: Ealing, Lloegr

Dyddiad Geni: 26 Tachwedd 1921

Dyddiad Marw: 23 Mawrth 2013

‘Mae Mary Gillham yn gadael etifeddiaeth wych: awdur 22 o lyfrau, cyd-awdur 6 arall, ynghyd â 50 o bapurau gwyddonol, erthyglau di-ri ac archif ysgrifenedig o gyfnodolion teithio, dyddiaduron bywyd gwyllt darluniadol, ac adroddiadau ar ymweliadau â safleoedd, sy’n ymestyn dros gyfnod o bron i 70 mlynedd.’ – Cyfieithwyd o Mary Gillham Archive Project – http://www.marygillhamarchiveproject.com/bio/