
- 1953: Graddiodd o Goleg Sommerville, Rhydychen, ac aeth ymlaen i gychwyn ar waith ymchwil mewn mathemateg.
- 1960: Penodwyd ei gŵr yn Ddiplomydd yn Burma (Myanmar erbyn hyn), a daeth yn ddarlithydd Mathemateg ym mhrifysgol Rangoon (Yangon).
- 1964: Symudwyd Gerry Warner i'r llysgenhadaeth yn Warsaw, Gwlad Pwyl, a chofrestrodd Mary i astudio ar gyfer gradd doethuriaeth yno.
- Mary oedd y wraig i ddiplomydd gyntaf i ennill doethuriaeth dramor, ac i gael swydd llawn amser yn ogystal â chefnogi gwaith diplomataidd ei gŵr.
- 1968: Daeth yn ddarlithydd mewn mathemateg yn City, Prifysgol Llundain.
- 1974: Symudodd hi a’i gŵr i Malaysia, a chafodd ei phenodi’n ddarlithydd i fyfyrwyr Prifysgol Malaysia, yn ogystal â Phrifysgol Tsieina yn Kuala Lumpur.
- 1983: Sefydlodd gwrs MSc a chael ei dyrchafu'n Ddarllenydd yn City, Prifysgol Llundain.
- Derbyniodd Mary Gadair mewn Mathemateg yn City, a pharhaodd i gyhoeddi'n helaeth.
- 1996: Mary yn ymddeol.
- Bu cyfraniad sylweddol Mary Warner i fathemateg yn help i ddatblygu cangen bwysig o fathemateg a elwir yn ‘fathemateg amhendant' (fuzzy mathematics).
‘Un o’r ymchwilwyr mwyaf blaenllaw ym maes mathemateg amhendant (fuzzy mathematics), sy’n uchel ei pharch ymhlith ei holl gydweithwyr yn y maes.’ – Cyfieithwyd o J. J. O’Connor and E. F. Robertson, ‘Mary Wynne Warner’, MacTutor, Hydref 2003 – https://mathshistory.st-andrews.ac.uk/Biographies/Warner/