Megan Arfon Lloyd George

Roedd Megan yn enwog am fod yn Aelod San Steffan benywaidd cyntaf Cymru, ac am ymgyrchu dros hawliau merched.

Megan Arfon Lloyd George

• Merch ieuengaf David Lloyd George oedd hi.
• 1919: Addysgodd hi ym Mharis wedi iddi adael Garratts Hall School yn Banstead.
• 1928: Daeth yn Aelod Seneddol (AS) dros Ynys Môn, y ferch gyntaf i gynrychioli Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin.
• 1951: Collodd ei sedd i Cledwyn Hughes, o’r Blaid Llafur.
• 1955: Ymunodd Megan â’r Blaid Lafur.
• 1955: Penodwyd hi yn Llywydd Undeb Cymru Fydd, mudiad â ymgyrchodd dros sefydlu Senedd i Gymru.
• 1956: Yr oedd yn un o’r grwp a gyflwynodd y ddeiseb i’r llywodraeth gyda chwarter miliwn o enwau ym mis Ebrill.
• 1957: Llwyddodd i ddod yn AS dros Caerfyrddin a daliodd y sedd honno hyd ei marwolaeth.
• 1966: Roedd ei phoblogrwydd yn amlwg; daeth torf enfawr i’r fynwent ar ddiwrnod ei hangladd, gan gynnwys Gwynfor Evans, a ddaeth yn AS dros Gaerfyrddin yn ei lle.

Man Geni: Cricieth, Gwynedd

Dyddiad Geni: 22 Ebrill 1902

Dyddiad Marw: 14 Mai 1966

‘Yr oedd Megan, ar ben hynny, yn radical Cymreig na fethodd â dadlau o blaid polisïau a oedd o fudd i’w Chymru enedigol, ac a wasanaethodd fel aelod o Gyngor Dosbarth Trefol Cricieth am nifer o flynyddoedd.’ – J Graham Jones