
• 1847: Cafodd ei urddo yno yn weinidog ar Eglwys Gymraeg yn Cincinnati, Ohio.
• Cymerodd ran amlwg yn ffurfio Cymdeithas y Brython oedd yn anelu at gynorthwyo ymfudwyr o Gymru, a bu’n ysgrifennydd iddi.
• 1850: Wedi iddo ddychwelyd i Gymru ymsefydlodd yn Weinidog y Bwlchnewydd a Gibeon, Sir Gaerfyrddin.
• 1855: Cafodd ei benodi yn brifathro Coleg yr Annibynwyr yn y Bala.
• Roedd yn flaenllaw yn sefydlu’r Wladfa Gymreig allan ym Mhatagonia, a byddai’r fenter yn siwr o fod wedi methu oni bai am gefnogaeth ariannol ef ai wraig.
• 1871: Cyhoeddwyd ef yn fethdalwr, ac roedd angen gwerthu Bodiwan, ei gartref a lleoliad y coleg, i’r pwyllgor.
• 1879: Mewn pwyllgor yn yr Amwythig, sef ‘Pwyllgor y Torri Pen’ diswyddwyd Michael fel prifathro oherwydd eu gwrthwynebiad i ddaliadau Michael.
• Ar ôl hynny bu dau goleg gan yr Annibynwyr yn y Bala, y naill dan ofal M. D. Jones ym Modiwan, a’r llall ym Mhlasyndre cyn symud i Fangor yn 1886.
• 1889: Llwyddwyd i uno’r ddau goleg ond caniatawyd i Michael aros yn y Bala i ofalu am adran y flwyddyn gyntaf; ni olygodd hynny iddo newid modfedd ar ei safbwynt.
• 1892: Ymddeolodd, er mwyn cael un coleg ym Mangor o’r enw ‘Coleg Bala-Bangor’.
‘Ond mae’r gweinidog gyda’r Annibynwyr, a fu am bron i ddeugain mlynedd yn brifathro coleg diwinyddol pwysig yn ei dref enedigol yn y Bala, hefyd wedi’i ddisgrifio fel “tad sefydlol cenedlaetholdeb gwleidyddol yng Nghymru”.’ – Cyfieithwyd o Dylan Moore, ‘Michael D. Jones: founder of Y Wladfa in Patagonia 1822 – 1898’, The National, 2 Mawrth 2022 – https://web.archive.org/web/20220308134239/https://www.thenational.wales/news/19962385.michael-d-jones-founder-y-wladfa-patagonia-1822—1898/