Morfydd Llwyn Owen

Mae Morfydd Owen yn enwog am fod yn gyfansoddwraig, pianydd, a chantores.

Morfydd Llwyn Owen

• Roedd ei rhieni’n gerddorol; ei mam yn gantores a phianydd galluog.
• Cafodd ei haddysg yn Ysgol Ganolradd Pontypridd.
• 1909: Enillodd Ysgoloriaeth Caradog Prifysgol Caerdydd.
• 1912: Graddiodd gyda Bagloriaeth yng Ngherddoriaeth ac aeth i’r Academi Gerdd Frenhinol.
• 1913: Enillodd Ysgoloriaeth Goring Thomas, ac enillodd nifer o brif wobrau a medalau yr Academi.
• Chyfansoddodd gweithiau i gerddorfeydd mawr a bach, corau, unawdau piano, caneuon, a threfniannau o alawon gwerin.
• Mae llawer o’i cherddoriaeth yn tarddu o ymdeimlad personol a chenedlaethol a ysbrydolwyd gan lenyddiaeth a llên gwerin ei phobl.
• Y mae tair o’i chaneuon, sef ‘To our Lady of Sorrows’, ‘Slumber Song of the Madonna’ a ‘Gweddi Pechadur’ yn enghreifftiau ardderchog o’i hathrylith.
• 1917: Priododd â’r seicolegydd Ernest Jones.

Man Geni: Trefforest, Rhondda Cynon Taf

Dyddiad Geni: 1 Hydref 1891

Dyddiad Marw: 7 Medi 1918

‘Pe gwireddid arwyddocâd y golled hon yn llawn, byddai cenedl gyfan yn wylo wrth ei bedd.’ – Cyfieithwyd o Ben Gwalchmai, ‘If the significance were fully realised, a nation would weep at her grave’, Wales Online, 1 Mawrth 2017 – https://www.walesonline.co.uk/lifestyle/nostalgia/if-significance-were-fully-realised-12597069