
• Aeth i weithio fel teleffonydd gyda’r Swyddfa Bost yng Nghaerfyrddin, Dinbych-y-pysgod a Chaerdydd.
• Cafodd ei phenodi yn Brif Deleffonydd yn yr Amwythig, ac yno y cwrddodd hi â’r newyddiadurwr a’r sosialydd, Max Davies.
• 1956: Yn ystod Argyfwng Suez ymunodd â Chymdeithas y Cenhedloedd Unedig.
• 1957: Penodwyd i weithio’n llawn amser fel Swyddog Ymgyrchoedd dros y Gymdeithas.
• Bu’n rheolwraig Siop Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig yn Llundain, yn Ysgrifennydd Rhanbarthol Llundain ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Prydain y Gymdeithas.
• Cynrychiolodd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ar Fforwm Heddwch Cyngor Eglwysi Prydain ac Iwerddon.
• 1983: Cafodd ei hanrhydeddu gan yr Orsedd, a’i henw yno oedd Myriel Dafydd.
• 1988: Ymddeolodd o’i gwaith fel Dirprwy Gyfarwyddwr y Cenhedloedd Unedig.
• 1993: Penodwyd hi, fel cynrychiolydd Cymru, yn un o gyd-lywyddion Cyngor Eglwysi Prydain ac Iwerddon.
• 1994: Gwasanaethodd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg fel Llywydd.
• 2000: Ychydig o wythnosau cyn iddi farw, cafodd ei hurddo ag OBE.
‘Yn Gristion o argyhoeddiad, roedd ffydd Myriel yn gadernid iddi ar hyd ei hoes, a cheisiodd addysgu pobl trwy eu hargyhoeddi o rymuster yr adnod “Câr dy gymydog fel ti dy hun”.’ – T. Hefin Jones, Y Bywgraffiadur Cymreig