Nansi Richards Jones (Telynores Maldwyn)

Nansi Richards oedd un o delynorion mwyaf enwog Cymru.

Nansi Richards

• Magwyd Nansi yn un o saith o blant i rieni cerddorol ar fferm Penybont yn hen sir Drefaldwyn.
• 1908: Enillodd Nansi am ganu’r delyn yn yr Eisteddfod dair gwaith yn olynol.
• 1910: Derbyn gwersi telyn ffurfiol yn y Guildhall yn Llundain.
• 1923: Nansi yn ymweld ag Unol Daleithiau America fel telynores broffesiynol.
• 1930: Sefydlu Côr Telyn Eryri, a ddaeth yn un o gorau mwyaf enwog Cymru.
• 1952: Perfformiodd Nansi yn y Royal Festival Hall yn Llundain.
• 1953: Cynrychiolodd Cymru yn y Gyngres Geltaidd a gynhaliwyd yn Glasgow.
• 1958: Canodd y delyn i Ddug Caeredin yng Ngwesty’r Elephant, Y Drenewydd.
• 1963: Y BBC yn recordio Nansi yn canu’r delyn ar Fferm Penybont.
• 1967: Derbyniodd Nansi MBE.
• 1973: Rhyddhau record ‘Celfyddyd Telynores Maldwyn’ a pherfformio yn Efrog Newydd.

Man Geni: Abertawe, Sir a Dinas Abertawe

Dyddiad Geni: 14 Mai 1888

Dyddiad Marw: 21 Rhagfyr 1979

‘Nid anaddas yw cyfeirio at Nansi fel “Brenhines y Delyn” gan mor amryddawn ydoedd. Ni wnaeth neb gyfraniad mor werthfawr â hi i’r delyn yn yr ugeinfed ganrif, ac yn arbennig felly i gerddoriaeth draddodiadol Gymreig.’ – Nia Gwyn Evans, Y Bywgraffiadur Cymreig