Olive Annie Wheeler

Mae Olive Annie Wheeler yn enwog am fod yn Seicolegydd ac Addysgydd.

Olive Annie Wheeler

• 1904: Cofrestrodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Yn ystod ei chyfnod fel myfyrwraig, bu’n Llywydd Cyngor Adrannol y Merched 1907–08, ac yn Llywydd Cyngor Cynrychiolwyr y Myfyrwyr.
• 1907: Graddiodd gyda BSc mewn Cemeg.
• 1908: Enillodd gymhwyster Tystysgrif Addysg Prifysgol Cymru.
• 1916: Cwblhaodd DSc mewn Seicoleg yn Bedford College, Llundain, ac astudiodd am gyfnod byr ym Mhrifysgol Paris.
• 1918: Penodwyd hi’n Ddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Manceinion.
• 1922: Safodd fel ymgeisydd seneddol dros Sedd Prifysgol Cymru, yn un o 33 o ymgeiswyr benywaidd yn yr etholiad cyffredinol hwnnw.
• 1923: Dyrchafwyd hi’n Ddeon Addysg Prifysgol Manceinio tan 1925.
• 1932: Cyfunwyd yr adrannau hyfforddi athrawon gwrywaidd a benywaidd, a daeth Wheeler yn Bennaeth yr Adran Addysg yng Nghaerdydd.
• 1948: Bu’n Ddeon y Gyfadran Addysg, a sefydlodd Cymdeithas Addysgol Caerdydd a’r Cylch a chanolfan golegol ar Heol yr Eglwys Gadeiriol.
• 1949: Anrhydeddwyd hi gyda DBE gan y frenin.
• 1951: Ymddeolodd ac wedi hynny bu’n Athro Emeritws Prifysgol Cymru.

Man Geni: Aberhonddu, Powys

Dyddiad Geni: 4 Mai 1886

Dyddiad Marw: 26 Medi 1963 

‘Roedd y Fonesig Olive Wheeler, neu’r Fonesig, fel y cyfeiriai rhai cydweithwyr ati, yn ddarlithydd ac athrawes garismatig.’ – Cyfieithwyd o John B. Thomas, ‘Wheeler, Dame Olive Annie’, ONDB, 2004 – https://doi.org/10.1093/ref:odnb/52747