
- Tua 1383: Priododd â Margaret Hamner, merch David Hamner. Cawsant nifer o blant.
- 1386: Rhoddodd Glyndŵr dystiolaeth mewn achos nodedig yn Uchel Lys Sifalri.
- 1400: Medi – Wedi cweryl gyda’r Reynold de Grey, arglwydd Dyffryn Clwyd, ymosododd Owain a’i cefnogwyr ar Ruthun a’i ddinistrio.
- 1400: Ar ôl y flwyddyn yma mabwysiadodd y teitl 'Tywysog Cymru' ac arfbais Tywysogion Gwynedd, a’r syniad o senedd genedlaethol ac eglwys Gymreig annibynnol.
- 1402: Cymerodd Reynold de Grey, ac yn hwyrach arweinydd y byddin Saesneg Edmund Mortimer, yn garcharor tan i frenin Lloegr talu symiau uchel o arian iddo.
- 1404: Daeth Harlech ac Aberystwyth i’w feddiant.
- 1405: 28 Chwefror – Y Cytundeb Tridarn rhynddo ef a dau arglwydd Saesneg; roedd Lloegr a Cymru I'w wahanu rhyngddyn nhw.
- 1405: Mai – Brwydr Pwll Melyn. Collodd Owain nifer o’i ddynion yn y frwydr.
- Yn ystod y tair blynedd nesaf collodd Harlech ac Aberystwyth.
- 1410: Roedd ei afael ar yr ardaloedd o amgylch ei gartref yn parhau, a llwyddodd i gael digon o gefnogaeth i ymosod ar ffiniau Sir Amwythig.
- 1412: Y tro diweddaf y clywyd o hono cyn ei ddiflaniad, er cred rhai taw yn Monnington Straddle neu Kentchurch, Swydd Henffordd bu farw nifer o flynyddoedd yn diweddarach.
‘Yn fwy nag unrhyw arweinydd yn hanes ein gwlad, Owain Glyndŵr yw’r un sydd wedi llwyddo orau i uno ac arwain Cymru yn erbyn rheolaeth Lloegr.’ – Aeres Twigg, ‘Owain Glyndŵr’ (Gomer 2007), tud. 3