Rachel Barrett

Mae Rachel Barrett yn enwog am fod yn swffragét. 

Rachel Barrett
  • 1906: Ymunodd mudiad milwriaethus oedd yn ymgyrchu am yr hawl i ferched bleidleisio.
  • 1908: Bu'n Gadeirydd Platfform 14 yn y rali yn Hyde Park, ac yn Gadeirydd y Platfform Cymreig yn 1910.
  • 1910: Gan ei bod hi’n siarad Cymraeg, arweiniodd Rachel ymgyrch yng Ngogledd Cymru yn yr haf ac aeth i gwrdd â Lloyd George yn ei gartref yng Nghricieth.
  • 1911: Mehefin – Ar ôl y cyfarfod hwnnw, penodwyd Rachel yn drefnydd WSPU Cymru.
  • Roedd Rachel yn ffigwr allweddol o fewn y Mudiad, hyd yn oed yn cyfarfod yr Ysgrifennydd Cartref yn Nhŷ'r Cyffredin.
  • Wrth iddi ymsefydlu yn Llundain, siaradodd ochr yn ochr â’r Pankhursts, Annie Kenney a swffragetiaid blaenllaw eraill dros Lloegr.
  • Canolbwyntiodd Rachel ar faterion cyffredinol yn ymwneud â’r hawl i bleidleisio, yn ogystal â newid statws swffragetiaid yn y carchar, gan alw ar y Wladwriaeth i'w trin fel carcharorion gwleidyddol.
  • 1913: Ebrill – Pasiwyd y 'Cat and Mouse Act' , ac arestiwyd Rachel Barrett, ynghyd â phump arall.
  • 1928: Cefnogodd Rachel ei ffrind, Radclyffe Hall, pan fu ei nofel, 'The Well of Loneliness', sef stori am gariad lesbaidd, yn bwnc achos llys am gynnwys anweddus.

Man Geni: Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin 

Dyddiad Geni: 12 Tachwedd 1874

Dyddiad Marw: 26 Awst 1953

‘Gwraig eithriadol o glyfar ac addysgedig.’ – Cyfieithwyd o Elizabeth Crawford, ‘The Women’s Suffrage Movement: A reference guide 1866–1928’ (Routeledge 2001), tud. 36