
• 1942: Bu farw ei thad yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pan drawyd ei long gan dorpido.
• 1951: Pan yn astudio Lefel A cwympodd Betty’n feichiog.
• 1953: Betty yn priodi ei chariad Robert Campbell.
• 1960: Un o’r menywod cyntaf i fynychu Coleg Hyfforddi Athrawon Caerdydd.
• 1963: Cymhwysodd Betty fel athrawes.
• 1970au: Fe’i penodwyd yn brifathrawes Du gyntaf Cymru.
• Cyflwynodd wersi i’w disgyblion ar gaethwasiaeth, hanes pobl Ddu ac ar y system apartheid yn Ne Affrica.
• 1990au: Penodwyd Betty i bwyllgor hil ymgynghorol y Swyddfa Gartref ac i’r Comisiwn dros Gydraddoldeb Hiliol.
• 1991–95: Cafodd ei hethol fel cynghorydd annibynnol Trebiwt ar gyngor Caerdydd.
• 1998: Cafodd wahoddiad i gwrdd â Nelson Mandela yn ei unig ymweliad â Chymru.
• 2003: Derbyniodd MBE am ei gwasanaeth i addysg a bywyd cymunedol.
• 2007: Chwaraeodd ran allweddol yn lansio Mis Hanes Pobl Dduon Cymru.
• 2019: BBC Cymru yn cynnal pleidlais gyhoeddus ar bwy ddylai cael eu cynrychioli gan y cerflun cyntaf o fenyw yng Nghaerdydd.
• 2021: Cerflun Betty Campbell yn cael ei ddadorchuddio gan y cerflynydd Eve Sheppard, tu allan i bencadlys y BBC yng Nghaerdydd.
‘”Gwir arloeswraig” ac “Ysbrydoliaeth i bobl ddu eraill a lleiafrifoedd ethnig”.’ – Carwyn Jones, cyn-Prif Weinidog Cymru