Rhys ap Gruffudd

Mae Rhys ap Gruffudd yn enwog am fod yn Arglwydd y Deheubarth ac am gynnal yr Eisteddfod gyntaf yn Aberteifi. 

Rhys ap Gruffudd
  • 1136: Ei dad Gruffudd ap Cynan a’i fam Gwenllian yn marw pan oedd Rhys yn bedair oed.
  • 1146: Bu’n ymladd, gyda’i frawd Maredudd, o dan arweiniad eu hanner brawd, Cadell.
  • Yn ystod y 10 mlynedd nesaf ail-ffurfiwyd hen frenhiniaeth y Deheubarth.
  • 1155: Maredudd, ei frawd yn marw. Daeth Rhys yn rheolwr y Deheubarth.
  • Cafodd y sefyllfa wleidyddol yn Lloegr ei thrawsnewid gan esgyniad Harri II. Dyma bwynt hynod bwysig ym mywyd Rhys.
  • 1158: Bu’n rhaid i Rhys ymostwng i Frenin Lloegr. Cymerwyd Ceredigion a rhan helaeth o Ystrad Tywi oddi arno. Bu’n rhaid i Rhys hefyd gytuno i beidio â galw ei hun yn frenin.
  • Yn ystod y saith mlynedd nesaf bu gwrthryfeloedd a nifer o gytundebau.
  • 1164–65: Y Gwrthryfel Mawr. Tra roedd Harri II yn brysur yn Lloegr, gwelodd Rhys ei gyfle a chymerodd ei diroedd yn ôl.
  • Oherwydd nifer o amgylchiadau ffafriol, llwyddodd hyd ddiwedd ei oes i ddal ei afael yn llwyr ar y tiroedd hyn, ac yn wir, ychwanegu atynt rannau o Ddyfed.
  • Dechreuwyd adeiladu castell yn y dull newydd yn Ninefwr, yr hen 'brifddinas'; ac un arall debyg yn Aberteifi.
  • 1176: Eisteddfod enwog yng Nghastell Aberteifi o dan nawdd Rhys – yr eisteddfod cyntaf.

Man Geni: Dinefwr, Sir Gaerfyrddin

Dyddiad Geni: 1132 

Dyddiad Marw: 11 Ebrill 1197 

‘Ar ôl dangos ei fod yn arweinydd yn ystod y rhyfel ac yn rhyfelwr dewr, profodd Rhys hefyd ei fod yr un mor ddeheuig mewn materion gwladwriaethol.’ – Cyfieithwyd o Roger Turvey, ‘The Lord Rhys: Prince of Deheubarth’ (Gomer 1997), tud. 73