
• 1948: Daeth yn actor proffesiynol. Cafodd rannau mewn dramâu yn Llundain ac i’r BBC, a chyfle i berfformio ar Broadway.
• 1949: Priodi Sybil Williams.
• 1951: Datblygodd ei yrfa o ddifri wedi iddo ragori yn nramâu Shakespeare ar lwyfan Stratford, a chafodd gytundeb gyda Twentieth Century Fox.
• 1961: Chwaraeodd ran Marc Anthony yn y ffilm ‘Cleopatra’ gydag Elizabeth Taylor, a chwympodd mewn cariad gyda hi.
• 1964: Priodi Elizabeth Taylor am y tro cyntaf.
• 1966: Enillodd wobr BAFTA am yr actor Prydeinig gorau.
• 1970: Cafodd ei urddo’n C.B.E.
• 1972: Ivor, ei frawd, yn marw, a bu dirywiad ym mywyd proffesiynol a theuluol Richard.
• 1975: Ail-briodi Elizabeth Taylor.
• 1976: Ail ysgariad rhwng Elizabeth Taylor a Richard. Aeth ymlaen i briodi Suzy Hunt.
• 1978: Ennill gwobr Golden Globe.
• 1983: Suzy Hunt a Richard yn cael ysgariad, a Richard yn mynd ymlaen i briodi Sally Hay.
• 1984: Ymddangosodd Richard ar lwyfan am y tro olaf, yn serennu gydag Elizabeth Taylor mewn taith o gwmpas America gyda’r ddrama ‘Private Lives’.
‘Ni anghofiodd am ei famwlad, ac efallai mai ef oedd y llysgennad gorau a gafodd Cymru yn yr ugeinfed ganrif. Wedi dweud hynny, roedd ei wladgarwch yn adlewyrchu balchder hiraethus yr alltud.’ – Gethin Mathews, Y Bywgraffiadur Cymreig