
• 1807/08: Ganwyd ym mwthyn Penderyn i Margaret a Lewis Lewis, crydd a mwyngloddiwr.
• Cafodd addysg yn ysgol Sul ei gapel Methodistaidd.
• 1819: Symud gyda’i deulu i Ferthyr Tudful a gweithio mewn pyllau glo gyda’i dad.
• 1831: 2 Mehefin – Nid oes sicrwydd pendant am symudiadau Dic Penderyn nes y dechreuodd y terfysg ym Merthyr Tudful, pan dechreuodd cythrwfl gydag ymosodiad ar dŷ clerc i’r llys.
• Anfonwyd milwyr tu mewn i’r Castle Inn; arhosodd eraill y tu allan ac amgylchynwyd nhw gan dorf o bobl, gyda Dic Penderyn yn eu plith.
• Bu ymladd nes i’r milwyr a oedd y tu mewn saethu drwy ffenestri’r gwesty i blith y dorf a lladdwyd rhai pobl, anafwyd eraill; anafwyd rhai o’r milwyr hefyd.
• Does neb yn siŵr a gymerodd Dic Penderyn ran yn y gweithgareddau dilynol – gan gynnwys ymosod ar grwp oedd yn cludo ffrwydron o Aberhonddu, ac ar y Swansea Yeomanry.
• 1831: 13 Fehefin – Aeth e i’r ddalfa am ymosod ar filwr Donald Black a’i condemnio i farwolaeth trwy grogi, er roedd cryn ansicrwydd ai Dic Penderyn a ymosododd arno.
• Trefnwyd deiseb, mae sôn fod dros 11,000 o bobl wedi’i harwyddo, i geisio dileu y gosb o farwolaeth.
• Llwyddodd Joseph Tregelles Price trefnu estyniad bywyd o bythefnos i’r carcharor; pan ddaeth yr estyniad hwnnw i ben gwrthododd yr Ysgrifennydd Cartref newid y ddedfryd.
• 1831: 13 Awst – Cafodd Dic ei grogi, ac yntau’n 23 mlwydd oed.
‘Heddiw, mae gweithwyr De Cymru yn anrhydeddu cof anfarwol Dic Penderyn. Cafodd ei lofruddio’n ddi-alw-amdano gan y dosbarth oedd yn rheoli, nid oherwydd unrhyw drosedd yr honnir iddo ei chyflawni, ond oherwydd ei fod yn ymladdwr milwriaethus dros ei ddosbarth ei hun.’ – Cyfieithyd o Islwyn ap Nicholas, ‘Dic Penderyn: Welsh Rebel and Martyr’ (Foyle’s Welsh Press 1946), tud. 59