Robert Recorde

Mae Robert Recorde yn enwog am fod yn fathemategydd a meddyg. Fe greodd y symbol hafal (=).

Robert Recorde

• 1530: Cafodd ei dderbyn yn Faglor yn y Celfyddydau.
• 1531: Cafodd ei ethol yn Gymrawd o Goleg yr Holl Eneidiau, Rhydychen.
• 1533: Rhoddodd Rhydychen drwydded iddo weithredu fel meddyg.
• 1537: Gadael Rhydychen i fynd i Gaergrawnt, lle dechreuodd ar astudiaethau meddygol uwch, a cefnogi’r Diwygiad Protestanaidd.
• 1542: Caergrawnt yn dyfarnu Gradd Feddygol iddo.
• 1543: Cyhoeddi ei lawlyfr mathemategol cyntaf, ‘The Grounde of Artes’.
• 1547: Cyhoeddi llawlyfr meddygol ar wrosgopeg dan y teitl ‘The Urinal of Physick’.
• 1553: Anfonodd Recorde lythyr at y frenhines Mari yn cwyno am y cyhuddiad o deyrnfradwriaeth a wnaed yn ei erbyn gan Iarll Penfro, ac yn ei gyhuddo o’r un peth.
• 1557: ‘The Whetstone of Witte’ yn cael ei gyhoeddi, gwaith ar algebra lle ddefnyddiwyd yr arwydd hafal (=) am y tro gyntaf.
• 1557: Gorchmynnwyd iddo dalu £1,000 o iawndal i’r Iarll Penfro, ynghyd â chostau mewn achos llys yn ei erbyn.
• 1558: Cafodd e arestio a’i roi yn y carchar, i’w rwystro rhag ffoi dramor.

Man Geni: Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro

Dyddiad Geni: c. 1512

Dyddiad Marw: 1558

‘Athrylith hapus ei fyd, ac un enwog am ddysgu pynciau cymhleth. Awdur caboledig a chywir, medrus iawn yn yr holl gelfyddydau rhyddfrydol a’r gwyddorau mathemategol.’ – Cyfieithwyd o Gordon Roberts, ‘Robert Recorde: Tudor Scholar and Mathematician’ (Gwasg Prifysgol Cymru 2016)