Ryan Davies

Mae Ryan Davies yn enwog am fod yn ddigrifwr, canwr ac actor.

Ryan Davies

• Aeth Ryan i Ysgol Uwchradd Llanfyllin, lle bu’n dangos ei ddoniau yn chwarae’r piano, perfformio a chanu.
• 1954: Yn 18 oed aeth i’r RAF am ddwy flynedd.
• 1957: Aeth i Goleg Normal Bangor i wneud cwrs hyfforddi fel athro.
• Astudiodd yn yr Ysgol Ganolog Llefaru a Drama yn Llundain.
• 1965: Arwyddo contract gyda’r BBC am £1,000.
• 1966: Ymddangosiad proffesiynol cyntaf Ryan yn Eisteddfod Genedlaethol Aberafan.
• 1967: Ryan a Ronnie’n perfformio gyda’i gilydd am y tro cyntaf.
• 1971: Darlledwyd tair cyfres o ‘Ryan a Ronnie’ dros 3 blynedd.
• 1972: Serennu yn ‘Under Milk Wood’ fel yr Ail Lais gyferbyn â Richard Burton.
• 1974: Pantomeim solo cyntaf Ryan – ‘Mother Goose’.
• 1977: Bu farw wedi pwl gwael o Asthma a thrawiad ar y galon yn America.

Man Geni: Glanaman, Sir Gaerfyrddin

Dyddiad Geni: 22 Ionawr 1937

Dyddiad Marw: 22 Ebrill 1977

‘Mae’n gomedïwr arbennig o amryddawn, hynny yw, mae’n medru canu’n dda, dawnsio, dweud stori’n dda, dynwared ac mae wedi dangos ei dalent arbennig fel actor.’ – Cyfieithwyd o Graham Jones, The Guardian (Ionawr 1975) yn Rhydderch Jones, ‘Cofiant Ryan’ (Y Lolfa 1979), tud. 91