Sarah Jane Rees (Cranogwen)

Bardd, golygydd, morwraig, pregethwraig ac athrawes oedd Sarah, a chaiff ei hadnabod yn ôl ei henw barddol, Cranogwen.

Sarah Janes Rees

• 1839: Cafodd ei geni yn Llangrannog.
• 1854: Yn 15 oed, gweithiodd ar y môr gyda’i thad a oedd yn capten llong.
• Am ddwy flynedd bu’n gweithio ar longau cargo rhwng Cymru a Ffrainc, cyn dychwelyd i Lundain a Lerpwl i astudio.
• Derbyniodd tystysgrif capten o Lundain, llwyddiant anghyffredin i menyw ar y pryd.
• 1860: Penodwyd hi’n Bennaeth Ysgol Penboyr, Llangrannog, yn 21 oed.
• 1865: Enillodd y wobr am ysgrifennu cân am ‘Y Fodrwy Briodasol’ yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth.
• 1870: ‘Caniadau Cranogwen’, ei chasgliad poblogaidd yn ymddangos.
• 1878: Golygodd gylchgrawn i ferched ‘Y Frythones’ am 13 mlynedd.
• 1901: Sefydlodd Undeb Dirwestol Merched y De i helpu merched oedd yn dioddef o broblemau yfed alcohol.
• 1916: Bu farw yng Nghilfynydd, ac yn byw gyda’i phartner Jane Thomas am 20 mlynedd olaf ei bywyd.

Man Geni: Llangrannog, Ceredigion

Dyddiad Geni: 9 Ionawr 1839

Dyddiad Marw: 27 Mehefin 1916

‘Cymraes ragorol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.’ – Deirdre Beddoe