Sarah Siddons

Mae Sarah Siddons yn enwog am fod yn actores. 

Sarah Siddons 1

• Roedd ei rhieni yn actorion, ac yn actio yn Aberhonddu ac ar y gororau. Roedd gan Sarah nifer o frodyr a chwiorydd.
• 1772: Ymunodd William Siddons â’r cwmni.
• 1773: Priododd Sarah William Siddons yn Coventry ar 26 Tachwedd.
• 1775: Ymddangosodd yn Drury Lane am y tro cyntaf.
• 1766: Chwaraeodd rhan Ariel yn ‘The Tempest’.
• 1782: Erbyn y flwyddyn yma roedd Sarah wedi cael 4 o blant, ac roedd wedi sefydlu ei hun fel y brif actores yng Nghwmni Theatr Caerfaddon.
• 1785: Chwarae rhan Lady Macbeth am y tro cyntaf, a gwnaeth hi un o’r actorion enwocaf o’i chyfnod.
• Paentiodd nifer o arlunwyr bortreadau ohoni, yn cynnwys Syr Thomas Laurence a George Romney.
• 1812: Ymddeol o actio, wedi araith ffarwel emosiynol yng nghanol drama.
• 1831: Bu farw yn Llundain, a daeth 5,000 o bobl i’w angladd.

Man Geni: Aberhonddu, Powys

Dyddiad Geni: 5 Gorffennaf 1755

Dyddiad Marw: 8 Mehefin 1831

‘Roedd Sarah Siddons yn ferch i Roger Kemble, actor taleithiol a rheolwr theatr, a’r actores Sarah Ward. Aeth saith o’i brodyr a’i chwiorydd i’r llwyfan.’ – Cyfieithwyd o Gillian Perry, ‘The First Actresses: Nell Gwyn to Sarah Siddons’ (National Portrait Gallery Publications 2011), tud. 53