Saunders Lewis

Mae Saunders Lewis yn enwog am fod yn wleidydd, beirniad a dramodydd.

Saunders Lewis

• 1911: Aeth i astudio Saesneg ym Mhrifysgol Lerpwl.
• 1914: Ymrestrodd Saunders yn wirfoddol yng Nghatrawd y Brenin, Lerpwl.
• 1915: Daeth yn Lefftenant. Anfonwyd ef i Ffrainc yr haf hwnnw.
• 1920: Cafodd ei benodi i’w swydd gyntaf, fel trefnydd cynllun i ddatblygu llyfrgelloedd gwledig yn Sir Forgannwg.
• 1922: Penodwyd ef yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Coleg y Brifysgol Abertawe ac ysgrifennodd ei ddrama Gymraeg gyntaf, ‘Gwaed yr Uchelwyr’.
• 1925: Sefydlu Plaid Cymru, plaid gwleidyddol.
• 1931: Safodd fel ymgeisydd Plaid Cymru yn yr Etholiad Cyffredinol.
• 1935: Ymgyrchodd Saunders i atal datblygiad ysgol fomio ym Mhenrhyn Llŷn.
• 1936: Teithiodd Saunders, D. J. Williams a Lewis Valentine i Benrhos a llosgi cytiau’r gweithwyr ar safle’r ‘Ysgol Fomio’, a chawsant eu harestio ond fe’u rhyddhawyd.
• 1937: Cafwyd y tri yn euog ac fe’u dedfrydwyd i naw mis yr un yng ngharchar Wormwood Scrubs.
• 1962: Darlledu’r ddarlith radio, ‘Tynged yr Iaith’.

Man Geni: Wallasey, Lloegr

Dyddiad Geni: 15 Hydref 1893

Dyddiad Marw: 1 Medi 1985

‘Y mae Mr. Lewis eisioes wedi rhoddi prawf o’i awydd a’i allu i ddiogelu buddiannau’r genedl Gymreig. Fe gofiwn am y gwaith gwerthfawr a wnaeth, ac yntau  eto ar staff un o golegau’r Brifysgol, fel aelod o’r Pwyllgor a gododd Prifysgol Cymru i achub cam Cymru gerbron y B.B.C.’ – Etholiad Prifysgol Cymru 1943: Llythryr Cefnogaeth i Mr. Saunders Lewis, tud. 2 – https://syllwr.llyfrgell.cymru/5150024#?cv=50