
• Gadawodd yr ysgol yn 16 oed a bu am gyfnod yn ddisgybl-athro yn ei hen ysgol yng Nghapel Mair.
• 1939: Ymladdodd yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn y Eidal a Gogledd Affrica.
• Wedi’r rhyfel, hyfforddodd fel athro yng Ngholeg y Waun, Caerdydd.
• 1950: Daeth yn bennaeth ar Ysgol Tre-groes, ac yn fuddugol gyda’i englyn ‘Ceiliog y Gwynt’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
• 1957: Cafodd ei benodi’n Brifathro yng Nghoed-y-bryn.
• 1958: Enillodd y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac eto y flwyddyn nesaf.
• 1970: Helpu gwneud Undeb Gwyddbwyll Cymru yn undeb annibynnol.
• 1975: Cyhoeddi un o’i nofelau enwocaf, ‘Tân ar y Comin’.
• 1976: Ennill gwobr Tir na n-Og am ‘Tân ar y Comin’.
• 1991: Ennill Tlws Mary Vaughan Jones am ei gyfraniad arbennig ym maes llyfrau plant.
‘Yr oedd T. Llew Jones yn ŵr eang ei ddiddordebau. Ymddiddorai mewn llên gwerin ac mewn mytholeg, a chyfrannodd nifer o erthyglau yn Gymraeg ac yn Saesneg i gylchgronau megis Llafar Gwlad a Carmarthenshire Life. Yr oedd hefyd yn ddarlithydd poblogaidd ac yn wyneb a llais cyfarwydd ar y cyfryngau torfol.’ – Idris Reynolds, Y Bywgraffiadur Cymreig