
• 1956: Ymunodd Ysgol Ramadeg Hwlffordd.
• Ar ôl gadael ysgol ymunodd Terry â’r Llynges.
• Ar ôl gorffen gweithio i’r Llynges, aeth Terry i Lundain i weithio i Hansard, lle roedd yn paratoi adroddiadau swyddogol ar holl ddadleuon seneddol San Steffan.
• Daeth yn DJ poblogaidd yn Heaven, sef clwb nos hoyw enwocaf Prydain.
• 1981: Achosion cyntaf o salwch yn gysylltiedig ag AIDS ymhlith dynion hoyw yn America. Roedd Terry yn sâl yn barod yn y cyfnod yma.
• 1982: Llewygodd yn Heaven.
• 1982: 4 Gorffennaf – Bu Terry farw.
• Dechreuodd Martyn Butler a Rupert Whitaker, partner Terry Higgins, a’i ffrind Tony Calvert Ymddiriedolaeth Terry Higgins.
• 1984: Ionawr – Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yn ennill statws elusennol.
• 1987: Y Dywysoges Diana yn agor y ward AIDS arbenigol gyntaf yn Ysbyty Middlesex yn Lloegr.
• 2010: Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yn cydweithio â’r Elton John AIDS Foundation i lansio LifePlus, i helpu pobl sy’n byw gyda HIV.
‘Higgins oedd y person a enwyd gyntaf yn y DU i farw o salwch yn gysylltiedig ag AIDS, ar 4 Gorffennaf 1982. Trwy ei enwi ar ôl person, roedd sylfaenwyr THT yn gobeithio dyneiddio’r epidemig marwol.’ – Cyfieithwyd o Simon Hattenstone, ‘”He taught me about love, affection and great sex”: the untold story of Terrence Higgins’, The Guardian, 23 Mehefin 2022 – https://www.theguardian.com/society/2022/jun/23/taught-me-love-affection-great-sex-untold-story-terrence-higgins