Thomas William Jones (Twm Titanic)

Mae Thomas William Jones yn enwog am rwyfo bad achub rhif 8 y Titanic ac achub bywydau nifer o bobl. 

Thomas William Jones

• 1877: Ganed yng Nghemaes i deulu pysgota.
• 1894: Ymuno â’r Llynges Frenhinol yn 16 oed.
• 1907: Roedd yn rhan o griw llong masnachol y ‘Majestic’.
• 1912: 6 Ebrill – Ymunodd â chriw y ‘Titanic’; suddwyd hi wyth diwrnod yn hwyrach.
• Roedd Twm yn gyfrifol am fad achub rhif 8. Roedd Iarlles Rothes ar y bad achub ac mi helpodd hi Twm.
• Roedd Twm eisiau mynd yn ôl i geisio helpu mwy o bobl. Ond dim ond tri pherson ar y cwch oedd eisiau gwneud hynny.
• Anfonodd Iarlles Rothes oriawr i Twm i ddiolch iddo am bopeth a wnaeth, ac anfonodd e bloc o bren gyda rhif 8 y bad achub arno fel anrheg yn ôl.
• 1916: Priododd â Clara Elizabeth Moulton. Cawsant 3 o blant sef Mary Ada, William Frank, ac Ellen.
• Ar ôl digwyddiad y ‘Titanic’ mi ddaliodd ati i weithio ar y môr.
• Mae plac wedi’i osod ar dŷ Twm Titanic yng Nghemaes.

Man Geni: Cemaes, Ynys Môn 

Dyddiad Geni: 15 Tachwedd 1877

Dyddiad Marw: Mehefin 1967

‘Roedd Jones yn Southampton pan oedd y “Titanic” yn paratoi ar gyfer ei mordaith gyntaf. Cafodd ei ddangos o amgylch y llong a chyfarfu ag un o’i ffrindiau, swyddog anhysbys, a’i berswadiodd i drosglwyddo, a gwnaeth hynny. Arwyddodd ar gyfer mordaith gyntaf y “Titanic” ar 6 Ebrill 1912, gan roi ei oedran yn 32, ei gyfeiriad fel 68 Nesfield Street, Lerpwl a’i long flaenorol fel yr “Oceanic”.’ – Cyfieithwyd o ‘Thomas William Jones’, Encyclopedia Titanica – https://www.encyclopedia-titanica.org/titanic-survivor/thomas-william-jones.html