Waldo Williams

Bardd a heddychwr o Sir Benfro oedd Waldo. Yn aml iawn, cyfeiriwyd ato wrth ei enw cyntaf yn unig.

Waldo Williams

• 1923: Aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth i astudio Saesneg a Hanes.
• Bu’n golygu cylchgrawn ‘The Dragon’ yn ystod ei amser yn y brifysgol, ac yn cyhoeddi cerddi yn y cylchgrawn yn ddi-enw.
• 1930au cynnar: Cyhoeddodd gyfres o gerddi yn ‘Y Ford Gron’.
• 1936: Ysgrifennodd, gyda’i ffrind E. Llwyd Williams, gyfrol o farddoniaeth i blant, ‘Cerddi’r Plant’.
• 1942: Cafodd ei ryddhau o wasanaeth milwrol ar yr amod ei fod yn parhau i weithio fel athro.
• 1945: Gadawodd Cymru i weithio mewn ysgolion yn Lloegr.
• 1949: Dychwelodd i Gymru.
• 1956: Cyhoeddodd ei waith mwyaf enwog, ‘Dail Pren’.
• 1959: Safodd fel ymgeisydd Plaid Cymru yn yr etholiad cyffredinol.
• 2010: Cafodd Cymdeithas Waldo Williams ei chreu gyda’r nod o barhau i hyrwyddo ei waith a’i weledigaeth.

Man Geni: Hwlffordd, Sir Benfro 

Dyddiad Geni: 30 Medi 1904

Dyddiad Marw: 20 Mai 1971

‘Y mae barddoniaeth Waldo Williams yn cyfrif nid yn unig am ei bod yn ymchwil i gyflwr hanfodol dyn ond am ei bod ar yr un pryd yn fynegiant o’r awydd i gael blas ar fyw.’ – Emlyn Evans, ‘Y Genhinen’ (Gwanwyn 1971)