
• 1814: Aeth i ysgol ym Machen ac wedyn yn brentis yng Nghaerffili.
• 1820: Symudodd i Lundain i fod yn ddisgybl meddyginiaeth.
• 1821: Enillodd gymwysterau llawfeddyg, a gweithio yn Nantgarw, Trefforest a Phontypridd, gan ddod yn enwog am ei waith.
• 1837: Daeth yn aelod pwysig o Gymdeithas y Maen Chwyf, grwp derwyddol, a cynhaliai ddefodau ar y Garreg Siglo ar gomin Pontypridd.
• 1840: Ffodd i Ffrainc i osgoi cosb am gefnogi’r siartwyr gan ddychwelyd i Gymru’n fuan wedyn er mwyn hybu Derwyddiaeth ac Annibyniaeth i Gymru.
• Daliodd nifer o gredoau dadleuol, yn erbyn priodas, crefydd uniongred, brechiadau, a’r gyfraith. Mi oedd yn lysieuwr, rhywbeth anarferol ar y pryd.
• 1883: Daeth Gwenllian Llewelyn yn bartner iddo – daeth yn fam i dri o’i blant, sef Iesu Grist, Iesu Grist yr Ail, a Penelopen.
• 1884: Aeth i’r llys ar y gyhuddiad o geisio llosgi corff Iesu Grist Price yn hytrach na’i gladdu. Canlyniad y prawf nodedig hwn oedd dyfarnu bod corfflosgiad yn gyfreithiol.
• 1893: 23 Ionawr – Bu farw yn Llantrisant, a cafodd ei gorff ei losgi.
‘Roedd Dr William Price yn un o’r rhai mwyaf lliwgar, dadleuol a chymhleth yn hanes Cymru, mor llachar a lliwgar â’i goelcerth angladdol fflamllyd, a ddisgleiriodd ar draws oes Fictorianaidd dywyll, ddiwydiannol.’ – Cyfieithwyd o Dean Powell, ‘Dr William Price’ (Amberley Publishing 2014), tud. 7