William Williams, Pantycelyn

Mae William Williams, Pantycelyn, yn enwog am fod yn awdur ac am ysgrifennu emynau.

William Williams

• 1740: Cafodd ei ordeinio’n Ddiacon.
• 1743: Bu mewn trafferth yn Llys yr Esgob ac o ganlyniad gwrthododd Esgob Tyddewi ei ordeinio’n Offeiriad.
• 1748: Priododd â Mary Francis, ac aeth i fyw i hen gartref ei fam ym Mhantycelyn.
• 1749: Y gyfrol ‘Aleluia’ yn cael ei chyhoeddi.
• 1756: Y gerdd ‘Golwg ar Deyrnas Crist’ yn ymddangos.
• 1759: Cyhoeddi cyfrol Saesneg ‘Hosannah to the Son of David’.
• Bu’n teithio, gan bregethu a chynnal seiadau ar hyd a lled Cymru trwy gydol ei oes.
• Yn ystod ei yrfa cyhoeddodd nifer o emynau fel ‘Hosanna i Fab Dafydd’; ‘Rhai Hymnau a Chaniadau Duwiol’, ‘Caniadau y Rhai Sydd ar y Môr o Wydr’, ‘Ffarwel Weledig’.
• Bu’r emynau hyn yn bwysig, nid yn unig i fywyd crefyddol y genedl, ond fel cyfraniad gwerthfawr i’w diwylliant llenyddol.
• Hefyd, cyhoeddodd nifer o ddarnau rhyddiaith, er enghraifft ‘Llythyr Martha Philopur’ a ‘Crocodil Afon yr Aipht’.

Man Geni: Cefncoed, Sir Gaerfyrddin 

Dyddiad Geni: 1717

Dyddiad Marw: 11 Ionawr 1791

‘Ef oedd bardd rhamantus cyntaf Cymru, ac fel y cyfryw bu ei ddylanwad yn drwm ar ei gyfoeswyr ac ar y rhai a ddaeth ar ei ôl.’ – Gomer Morgan Roberts, Y Bywgraffiadur Cymreig