Winifred Margaret Coombe Tennant

Mae Winifred Margaret Coombe Tennant yn enwog am fod yn gennad i gynulliad cyntaf Cynghrair y Cenhedloedd, un o 'ferched y bleidlais', meistres gwisgoedd Gorsedd y Beirdd, a chyfryngwr ysbrydion (medium). Ei henw gorseddol oedd 'Mam o Nedd'.

Winifred Margaret Coombe Tennant

• 1895: Priododd Charles Coombe Tennant, ac aethant i fyw ger Castell-nedd.
• Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf bu’n Is-gadeirydd Pwyllgor Amaethyddol y Merched yn Sir Forgannwg, ac yn Gadeirydd Pwyllgor Pensiynau Rhyfel Castell-nedd a’r Cylch.
• 1918: Bu’n Gadeirydd Adran Celf a Chrefft yr Eisteddfod Genedlaethol, ac fe’i hetholwyd i fod yn aelod o bwyllgor a fu’n ymchwilio i ffyrdd o sefydlu llywodraeth ffederal i Gymru.
• 1920: Cafodd ei phenodi’n Ynad Heddwch. Hi oedd y wraig gyntaf i wasanaethu yno.
• 1920: Am ddegawd bu’n Ymwelwyr Swyddogol carchar Abertawe, ac yn gyfrifol am sicrhau rhai gwelliannau sylweddol yn nhriniaeth y carcharorion.
• Ymladdodd Winifred dros carcharorion Abertawe i gael raseli diogel yn hytrach na’u bod yn gorfod tyfu barf.
• 1922: Cafodd ei henwebu gan y Prif Weinidog, David Lloyd George, i fod yn un o gynrychiolwyr y Cynghrair y Cenhedloedd.
• Trodd Winifred yn genedlaetholwraig frwd, a daeth yn flaenllaw yng Ngorsedd y Beirdd, fel Meistres y Gwisgoedd.
• Roedd yn gyfryngwr ysbrydion, ond doedd neb yn gwybod, ar wahân i gylch bach o ffrindiau agos, nes ar ôl iddi farw.
• 1931: Daeth yn brynwr swyddogol Oriel Gelf Glyn Vivian yn Abertawe.

Man Geni: Abertawe, Dinas a Sir Abertawe

Dyddiad Geni: 1874

Dyddiad Marw: 31 Awst 1956

‘Bu’n weithgar dros y mudiad heddwch rhyngwladol, a chynrychiolodd Prydain yng Nghynghrair y Cenhedloedd.’ – Peter Lord, ‘Winifred Coombe Tennant: Bywyd trwy Gelf’ (Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2007), tud. 1