Holl Enwogion

Mae Cynan yn enwog am fod yn fardd, dramodwr ac Eisteddfodwr.

Mae Alfred Russel Wallace yn enwog am fod yn naturiaethwr a hyrwyddwr diwygiadau cymdeithasol.

Mae Alice Williams yn enwog am fod yn llenor, artist a gwirfoddolwr lles. Ei ffugenw oedd Alys Meirion.

Mae Aneurin Bevan yn enwog am sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Arweiniodd Annie Hughes Griffiths ddirprwyaeth Deiseb Heddwch gan fenywod Cymru i America.

Mae Augusta Hall yn enwog am fod yn noddwraig diwylliant a dyfeisydd y wisg Genedlaethol Gymreig. Arglwyddes Llanofer oedd ei theitl bonedd, a Gwenynen Gwent oedd ei henw barddol.

Mae Augustus John yn enwog am fod yn arlunydd blaenllaw.

Mae Bartholomew Roberts neu Barti Ddu yn enwog am fod yn fôr-leidr.

Mae Berta Ruck yn enwog am fod yn nofelydd

Mae Betsi Cadwaladr yn enwog am ei gwaith fel nyrs yn Balaclava, yn ystod Rhyfel y Crimea.

Mae Betty Campbell yn enwog am fod y brifathrawes Du gyntaf yng Nghymru ac yn weithredydd cymunedol yn ardal Caerdydd.

Mae Caradog Prichard yn enwog fel bardd a llenor. Ef yw awdur y nofel 'Un Nos Ola Leuad' gyhoeddwyd yn 1961. Mae’r nofel yn darlunio plentyndod yr awdur yn Nyffryn Ogwen ar ddechrau'r 20fed ganrif, ac yn crybwyll pethau a ddigwyddodd ym mywyd Caradog Prichard ei hun. 

Mae Catrin o Ferain yn enwog am ei bod yn dod o deuluoedd Brenhinol a Bonheddig. Mi briododd bedair gwaith ac mae’n cael ei galw yn 'Fam Cymru'.

Y cyntaf i gyfieithu’r 'Mabinogi' i’r Saesneg. Hi ddyfeisiodd y teitl 'The Mabinogion'. Roedd hi’n gyfieithydd, ieithydd, entrepreneur, awdur a chasglwr celf.  

Mae Clive Sullivan yn enwog am fod yn chwaraewr rygbi'r gynghrair. 

Mae David Davies Llandinam yn enwog am fod yn ddiwydiannwr ac Aelod Seneddol. 

Mae D. J. Williams yn enwog am fod yn lenor ac yn un o’r tri a garcharwyd am losgi Ysgol Fomio Penyberth. 

Mae David Lloyd George yn enwog am fod y Cymro cyntaf i fod yn Brif Weinidog Prydain, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. 

Mae Dewi Sant yn enwog am fod yn Nawddsant Cymru. 

Mae Donald Watts Davies yn enwog am fod yn  arloeswr cyfrifiadureg ddigidol, ac arloeswr dull arbennig o drosglwyddo data sy’n rhan bwysig o’r rhyngrwyd. 

Mae Dorothy Noel Bonarjee yn enwog am fod yn fardd a chyfreithwraig.

Mae Dylan Thomas yn enwog am fod yn fardd a llenor.

Mae Edward Williams yn enwog fel bardd a hynafiaethydd.

Mae Eirwen Meiriona Gwynn yn enwog am fod y ferch gyntaf i dderbyn PhD mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.

Mae Eldra Mary Jarman yn enwog am fod yn delynores ac awdur.

Mae Eleanor de Montfort yn enwog am fod yn dywysoges a diplomydd.

Nofelydd Radical, Ymgyrchydd Ffeministaidd a Diwydiannwr Cynnar. Ysgrifennodd Elizabeth Amy Dillwyn rai o’r nofelau lesbiaidd cyntaf i fod mewn print.

Mae Liz Howe yn enwog am fod yn ecolegydd blaenllaw a fu’n cyfrannu at fesurau cadwraethol yng Nghymru.

Mae Elizabeth Phillips Hughes yn enwog am fod yn Addysgydd

Mae Elizabeth Watkin-Jones yn enwog am fod yn awdur llyfrau plant.

Mae Ellis Humphrey Evans (Hedd Wyn) yn enwog am fod yn fardd a gafodd ei ladd tra’n ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae Eluned Morgan yn enwog am fod yn llenor

Mae Emmeline Lewis Lloyd yn enwog am fod yn un o ddringwyr benywaidd cyntaf o Brydain i ddringo yn yr Alpau.

Mae Enrico Alphonso Stennett yn enwog am fod yn actifydd cysylltiadau hil, dyn busnes a dawnsiwr.

Mae Evan James, ai fab James James, yn enwog am fod yn gyfansoddwyr 'Hen Wlad Fy Nhadau'. Ffug enw Evan James oedd Ieuan ap Iago

Mae Frances Batty Shand yn enwog am fod yn weithiwr elusennol.

Frances Hoggan oedd y Gymraes gyntaf i ymgymhwyso'n feddyg, a bu'n flaenllaw yn yr ymgyrch i wella addysg i ferched yng Nghymru.

Mae Gareth Richard Vaughan Jones yn enwog am fod yn ieithydd a newyddiadurwr.

Mae Grace Williams yn enwog am fod yn gyfansoddwraig ac yn gerddor.

Roedd Gwen John yn arlunydd a oedd yn enwog am baentio hunan-bortreadau, paentiadau o ferched eraill, a bywyd llonydd.

Mae Gwendoline Davies Gregynog yn enwog am fod yn gasglydd gwaith celf a chymwynasydd.

Mae Gwenllian yn enwog am fod yn Dywysoges, ac am arwain byddin, yn absenoldeb ei gŵr, mewn cyrch yn erbyn y Normaniaid.

Mae Gwynfor Evans yn enwog am fod yn genedlaetholwr a gwleidydd.

Mae Harri VII yn enwog am fod yn Frenin Lloegr ac am ddechrau llinach y Tuduriaid.

Mae Helen Josephine Watts yn enwog am fod yn gantores.

Mae Helen Wyn Thomas yn enwog am fod yn actifydd heddwch, ac yn un o fenywod Greenham Common.

Mae Hywel Dda yn enwog am fod yn Frenin a Deddfwr.

Mae Syr Ifan ab Owen Edwards yn enwog am fod yn ddarlithydd a sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru.

Mae Jacob Thomas yn enwog am gynrychioli Prydain yn y Gemau Paralympaidd.

Mae Jimmy Wilde yn enwog am fod yn focsiwr, pencampwr pwysau pry'r byd o 1916–23.

Pêl-droediwr oedd John Charles a chwaraeodd i Leeds United, Juventus a Chymru. Yn ôl rhai, ef oedd un o’r pêl-droedwyr gorau i'w fagu yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif.

Mae John Davies yn enwog am fod yn hanesydd, academydd a chyflwynydd teledu.

Mae John Frost yn enwog am fod yn un o arweinwyr mudiad y siartwyr yn y 1830au.

Mae John Jones yn enwog am fod yn Seryddwr ac yn Ieithydd.

Mae John Roberts yn enwog am ganu'r delyn. Ei ffugenw oedd Alaw Elwy, Telynor Cymru.

Mae John Ystumllyn yn enwog am fod yn arddwr blaenllaw a goruchwyliwr tir, ac roedd yn un o'r bobl Ddu gyntaf yng Nghymru i gael hanes ei fywyd wedi ei gofnodi.

Mae Kate Bosse-Griffiths yn enwog am fod yn Eifftolegydd ac Awdures.

Mae Kate Roberts yn cael ei chydnabod fel llenor amlycaf Cymru yn yr 20fed ganrif.

Mae Kathleen Carpenter yn enwog am fod yn ecolegydd blaenllaw ac arloesol.

Mae Kyffin Williams yn cael ei ystyried yn un o brif arlunwyr Cymru a'r mwyaf llwyddiannus erioed o ran gyrfa fel artist proffesiynol.

Mae Laura Ashley yn enwog am fod yn ddylunydd ffasiwn.

Mae Lewis Valentine yn enwog am fod yn awdur, cenedlaetholwr a gweinidog.

Mae Llywelyn ap Gruffudd yn enwog am fod yn Dywysog Cymru.

Mae Lois Blake yn enwog am fod yn hanesydd a hyrwyddwraig dawnsio gwerin Cymru

Mae Lucy Gwendolen Williams yn enwog am fod yn gerflunydd.

Mae Margaret Davies, Gregynog yn enwog am fod yn gasglydd celfwaith a chymwynasydd.

Mae Margaret Haig Thomas yn enwog am fod yn swffragét, golygydd, awdur a gwraig fusnes.

Mae Maria Jane Williams yn enwog am fod yn gasglwr llên gwerin a cherddor.

Mae Martha Hughes Cannon yn enwog am fod yn feddyg, a’r fenyw gyntaf i gael ei hethol i Senedd Daleithiol yn Unol Daleithiau America.

Mae Mary Dilys Glynne yn enwog am fod yn wyddonydd blaenllaw ac yn batholegydd planhigion.

Mae Mary Gillham yn enwog am fod yn naturiaethwr ac ysgolhaig.

Mae Mary Jones yn enwog am gerdded 25 milltir i’r Bala i brynu Beibl, ar ôl cynilo’r arian am 6 mlynedd.

Mae Mary Wynne Warner yn enwog am fod yn fathemategydd.

Roedd Megan yn enwog am fod yn Aelod San Steffan benywaidd cyntaf Cymru, ac am ymgyrchu dros hawliau merched.

Mae Michael D. Jones yn enwog am fod yn weinidog gyda'r Annibynwyr a phrifathro Coleg ac un o sefydlwyr y Wladfa ym Mhatagonia.

Mae Morfydd Owen yn enwog am fod yn gyfansoddwraig, pianydd, a chantores.

Mae Myriel Irfona Davies yn enwog am fod yn ymgyrchydd dros y Cenhedloedd Unedig.

Nansi Richards oedd un o delynorion mwyaf enwog Cymru.

Mae Non yn enwog am fod yn fam i Dewi Sant, Nawddsant Cymru.

Mae Olive Annie Wheeler yn enwog am fod yn Seicolegydd ac Addysgydd.

Mae Owain Glyndŵr yn enwog am fod yn 'Dywysog Cymru'.

Mae Rachel Barrett yn enwog am fod yn swffragét. 

Mae Rhys ap Gruffudd yn enwog am fod yn Arglwydd y Deheubarth ac am gynnal yr Eisteddfod gyntaf yn Aberteifi. 

Mae Richard Burton yn enwog am fod yn actor. 

Mae Richard Lewis yn enwog am fod yn wrthryfelwr Cymreig.

Mae Robert Recorde yn enwog am fod yn fathemategydd a meddyg. Fe greodd y symbol hafal (=).

Mae Ryan Davies yn enwog am fod yn ddigrifwr, canwr ac actor. 

Bardd, golygydd, morwraig, pregethwraig ac athrawes oedd Sarah, a chaiff ei hadnabod yn ôl ei henw barddol, Cranogwen.

Mae Sarah Siddons yn enwog am fod yn actores. 

Mae Saunders Lewis yn enwog am fod yn wleidydd, beirniad a dramodydd. 

Mae William Price yn enwog am fod yn feddyg a 'dyn od'. 

Mae T. Llew Jones yn enwog am fod yn fardd a llenor toreithiog. 

Mae Terry Higgins yn adnabyddus am fod yn un o’r bobl gyntaf yn y Deyrnas Unedig i farw o salwch yn gysylltiedig ag AIDS. 

Mae Tommy Bamford yn enwog am fod yn bêl-droediwr sydd wedi chwarae i Wrecsam, Manchester United ac Abertawe.

Mae Thomas Maldwyn Pryce yn enwog am fod yn rasiwr ceir.

Mae Thomas William Jones yn enwog am rwyfo bad achub rhif 8 y 'Titanic' ac achub bywydau nifer o bobl. 

Bardd a heddychwr o Sir Benfro oedd Waldo. Yn aml iawn, cyfeiriwyd ato wrth ei enw cyntaf yn unig.

Mae William Morgan yn cael ei gydnabod fel y person a oedd yn bennaf gyfrifol am gyhoeddi’r cyfieithiad llawn cyntaf o’r Beibl Cymraeg yn 1588. Roedd y cyfieithiad yn rhoi cyfle i bobl Cymru ddarllen yr Hen Destament am y tro cyntaf yn Gymraeg.

Mae William Williams, Pantycelyn, yn enwog am fod yn awdur ac am ysgrifennu emynau.

Mae Winifred Margaret Coombe Tennant yn enwog am fod yn gennad i gynulliad cyntaf Cynghrair y Cenhedloedd, un o 'ferched y bleidlais', meistres gwisgoedd Gorsedd y Beirdd, a chyfryngwr ysbrydion (medium). Ei henw gorseddol oedd 'Mam o Nedd'.